Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"echdoe" ynddi. Dene'r tasg buddiol a gawsom gan yr athraw y Sul cynt. Ac am y tro roedd Wmffre a fi wedi penderfynu trio. Gwyddwn pam fod y gweill wedi sefyll heb imi edrych. Dene lle roedden nhw ar lin mam, yn suddo'n ddyfnach, ddyfnach i'w glin hi o hyd, a'i dwylo yn llithro o dipyn i beth heibio ei hochor, a'i phen yn dwad i lawr gam a cham yn gyson, nes dwad i fan neilltuol. Yna, mi golle'r balans, ac i lawr â fo. Arfer mam ar ol y sgytiad yma bob amser ydi deffro'n sydyn, edrych arna i a ydwi'n gneud rhywbeth o'i le, yna cau ei llygid, a'i phen yn cychwyn ar yr un daith wedyn. Dan swyn y symud yma ar ben mam, mi anghofies chwilio am y gair "echdoe." Ac roedd nhad yr un mor ddiddorol a hithe. Pwysai ef ei benelinoedd ar ei benneglinie, edrychai'n syn i fyny'r simdde, ac o amgylch ei ben yr oedd yr awyr yn llawn cyrls mŵg, yn troi'n llinynne. Yr unig sŵn oedd tipiade'r cloc bach, yr oedd y cloc mawr wedi stopio ar ol inni ddwad i'r tŷ newydd, gan fod nhad wedi methu ei osod o'n union,—a gwich ysgafn fel dechre bronteitus o frest mam. Ni chlywech hi'n anadlu o gwbwl. Dene beth ydwi wedi sylwi lawer gwaith, nad ydech chi byth yn clywed pobol yn anadlu pan fyddan nhw yn pendympian. A hefyd sŵn "w-pŵ, w-pŵ, w-pŵ," araf o gyfeiriad nhad, wrth y gwaith pwysig o neud cyrls mŵg. Wrth glywed y wich yn dechre ym mrest mam, dechreues betruso beth oedd cysylltiad gwynt y dwyrain â'r fronteitus tybed. Mi chwilies bob man yn esboniad Idrisyn o dan y geirie "dwyrain," "doethion," "gwynt," a "seren," ymhob lle y cofiwn eu bod yn y Beibil, ond ches i ddim goleuni. Dene'r fantes y mae'n debyg