fydd y wich fach yn dechre, feder mam byth siarad yn hir, a meddiennes inne fy hun mewn amynedd, gan wybod y bydde popeth wedi llonyddu'n fuan. Mi orffenes olchi nhrwyn ac aeth hithe i'w lle i weu, a dene gliciade'r gweill yn dechre mor gyson â thipiade'r cloc. O dipyn i beth arafai'r gweill, a chodes inne mhen ar ol y gwaith ofer o chwilio am "Teitus" i wylio pen mam yn dechre gwyro o gam i gam nes dwad at y dibyn, yna,—i lawr. Bob tro y digwydde hyn, neidiai i fyny, ac mi ddechreue eilweth ar y gweu, ac yna trwy'r un cwrs drachefn. Ar ol y trydydd cwymp o eiddo ei phen ysgydwodd ei hun, a gofynnodd i nhad yn hanner chwyrn, fel tase hi wedi digio wrtho am beidio â'i hateb eyn iddi hi ofyn iddo,—
"Edward, ymhle mae Belgiam?"
Cymerodd nhad ei amser i neud hanner dwsin o gyrls mŵg, ac edrych arnyn nhw'n diflannu'n llinynne,—
"T'wnt i Wrecsam," medde fo.
"Sut ydech chi'n deyd hynny?" medde mam yn hanner blin.
"Wel, trwy Wrecsam mae pawb yn mynd yno," medde nhad, a dechreuodd gyrlio mŵg wedyn.
Dechreuodd y pendwmpian drachefn, a dechreuodd y pen wyro, a gwyro bob yn fodfedd, a modfedd, nes cyrraedd y jerc. Neidiodd mam i fyny eilweth,—
"Edward," medde hi, "ymhle mae Wrecsam?"
"T'wnt i Gaer," medde nhad, ac yn ei flaen i blethu mŵg.
"O!" medde mam, a bodlonodd.
Dechreuodd mam weu wedyn am ysbaid, nes ei gorchfygu gan y pendympian, ac i lawr â'r pen,—hyd y jerc. Yna neidiodd mam, trodd at nhad, a gofynnodd,—