Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y cynhaea, neu ginio clwb—dydio byth yn dwad i de parti'r Ysgol Sul. Ac arhosodd heb ei dê, dim ond rhyw damed bach i aros pryd.

Daeth y nos, ac un dwyll oedd hi, ac yr oedd gwynt y dwyrain wedi codi'n storm er y bore. "Mae ene un cysur," medde mam, "mae o'n cael y gwynt o'i du i ddwad dros y môr ene,"—ac aeth i'r drws. Doedd dim i'w glywed ond y gwynt yn llwyn top yr ardd, a sein y "Black Crow" yn sgrechian yn wyllt. Aeth nhad i lawr y ffordd dipyn. Yna ymhen ennyd taflodd mam ei ffedog dros ei phen ac aeth ar ei ol, a minne'n aros yn y tŷ rhag i'r gath fynd ar y bwrdd. Daeth y ddau yn eu hole, ac arosasant fel yr oeddynt am ychydig. Tynasant eu pethe yn y man, ac eisteddodd nhad ar y sgrîn a mam ar y setl. "Wyddoch chi be," medde nhad, "mae gwynt y dwyrain yma'n oer hefyd."

"Ddim mor oer chwaith ag y base rhwfun yn meddwl," medde mam, a chododd i fynd i'r drws wedyn. Caeodd o wedi syllu'n hir i'r twllwch, a daeth yn ol. Ymhen tipyn dene'r drws yn agor yn sydyn, nes taro yn erbyn y pared. "Huw!" medde ni ill tri ar unweth. A dene'r plant lleia, oedd yn eu gwlâu, i gyd ar eu traed. Ond doedd yno ddim heblaw pwff o wynt, a daeth "bŵ-ŵ-ŵ-ŵ" mawr i'r tŷ efo fo. Chwythodd yr almanac oddiar y wal, a diffoddodd y gannwyll, cyn i neb fagu calon i gau'r drws. Yn y man codes i a chaues o. A bu gwrando distaw, maith, tan syllu i'r tân. "Bŵ-ŵ-ŵ-ŵ," medde gwynt y dwyrain, yn awr ac eilweth mewn llais bâs dyfn o dan y drws, ond ni chlywem ddim sŵn arall yn unman.