Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel," medde fo, "rydwi wedi deyd be fydde'r gosb os daliwn i rywun, a dyma fi wedi dal Edward Roberts." (Roedd ganddo ryw lach arna i ers tro, rydwi'n siwr). "Y gosb ydi i mi lenwi mhocedi efo'r cnau yma, a thaflu'r gweddill allan i'r ffordd i bawb eu pigo nhw."

Trodd at y ddesc, llenwodd ddwy boced tu ol ei jeced, ac wrth gerdded yn ol a blaen yn yr ysgol y pnawn hwnnw, roedd o am y byd fel y llunie welsoch chi o ferched ers talwm iawn, pan oedden nhw'n gwisgo'r peth mae mam yn ei alw yn "bysl."

Bedwar o'r gloch, dyma ollwng y plant allan, a hel y baich cnau oedd ar y ddesc, a'u taflu nhw i gyd i'r ffordd, a Joseph yn sefyll yn nrws yr ysgol tan wenu, i edrych ar y bechgyn yn scramblo amdanyn nhw, a finne â mhwyse ar wal yr ysgol yn edrych,—minne hefyd yn gwenu, am fy mod i'n nabod y bechgyn yn well na Joseph. Wedi eu hel nhw i gyd, heb un ar ol, daeth Wmffre nghefnder ata i, a phob un o'r bechgyn ar ei ol o, a rhoisant yn ol imi fy nghnau i gyd, gan eu gwthio i mhocedi. Codes fy mhen i edrych ar Joseph, ac mi gwelwn o yn cau'r drws, ac yn mynd i mewn i'r ysgol.

Dene'r pam fod Wmffre a minne wedi chware triwels pnawn drannoeth. Mi wyddem na feiddie Joseph neud llawer inni, am ei fod wedi gweld na chai o mo'r bechgyn o'i blaid. Ond mi fase'n well i mi fynd i'r ysgol, beth bynnag am Wmffre.

Aethom i'r ysgol bore drannoeth, heb feddwl o gwbl am y triwels yma, ac aeth popeth yn ei flaen fel arfer. I ffwrdd â ni i hel cnau wedyn—ganol dydd,—lond y ffordd o honom ni. Ymhen yr