Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thrawsfeddiannu pob tŷ a thwlc o fewn y lle. Mor dawel oedd hi yno ag y gellid clywed yn glir hen gloc mawr yr ysgol bob dydd yn tipian cyn belled a buarth y Crown. Doedd na siw na miw arall ond y sŵn hwnnw na ellwch chi mo'i ddeffinio, sy'n yr awyr pan fo popeth yn berffaith dawel. Rhygnai ceffyl ei garn yrŵan ac yn y man ar gerryg llawr stabal y Crown, ac mi clywech o'n rhoi ambell gno ar ei fwyd rhwng ysbeidie o dawelwch, fel pe na base arno ddim angen am fwy o fwyd nag a fase'n ei gynnal i freuddwydio, ac mai cipio tamed rhwng y golygfeydd yr oedd o. Yr unig sŵn arall y gallsech chi ei glywed o'r ffordd fawr oedd cliciade gweill yr hen Farged Roberts y Gwŷdd, a ddoi'n ysbeidie di-reol trwy'r drws agored. Ac mae'n rhaid ei bod hi'n dawel felly. Ac yr oedd yn reit hawdd dychmygu cyflwr yr hen Farged ar y pryd,—mai gweu yr oedd hi, a phendympian bob yn ail. O dipyn i beth mi dawelodd hithe'n llwyr, ac ni welech unrhyw arwydd o fywyd o'r cyfeiriad hwnnw, ond y gath, a chwareuai ar garreg drws y ffrynt â hynny oedd yng ngweddill o'r bellen ddafedd ar ol iddi ei rholio yno trwy ddrws y cefn ac i lawr yr ardd a heibio talcen y tŷ."

"'Rargen fawr," medde Wmffre dan chwerthin.

"Mae o'n wired a'r pader i ti," medde Tomos Owen.

"Toc," medde fo, "dene sŵn traed yn dwad o'r pellter o gyfeiriad Allt y Felin, a gŵr bynheddig yr olwg arno fo, yn dwad i lawr tua chanol y Llan a'r fynwent. Daeth Elin Huws Nymbar Ten i'r drws, ac ar ei chyfer yr ochor arall yr oedd Leisa Ifans Nymbar Nain, yn disgwyl yn ddyfal am i'r gŵr diarth ddwad heibio."