hwyr a'r rhawg, pan oedd Wmffre yn nhop y pren crabas, a minne'n eu dal nhw iddo fo, canodd cloch yr ysgol, ac am yr ysgol â ni am ein bywyd. Yn y man mi sylwes nad oedd Wmffre yno. Trois fy mhen, a dene lle roedd o'n ceisio tynnu ei jeced yn rhydd oddiwrth gangen y pren crabas. Doedd dim i'w neud ond mynd yn ol i'w helpio fo, a chymyd ein siawns wedyn efo Joseph. Cyn gynted ag y cyrhaeddes i yn ol at Wmffre, ac i'r bechgyn erill fynd o'r golwg, mi dynnodd ei hun yn rhydd yn rhwydd ddigon.
"Ddoi di i hel crabas yn lle mynd i'r ysgol," medde fo, "mae ene bren ardderchog wrth ein tŷ ni. Dydi nhad ddim gartre, ac mae mam wedi mynd i edrych am modryb Marged."
Gweles drwy'r bachu wrth y pren yn syth, ac heb ddeyd gair chwaneg, i ffwrdd â ni at Bont Styllod. Fuo ni ddim yno yr un hanner awr, nad oedd pob poced yn llawn, a chan fod swp mawr o gnau ar lawr, oedd wedi eu tynnu o'n pocedi ni, roeddem ni uwch ben ein digon.
Wedi bwyta nes mynd bron yn sâl, a digon o amser wedyn ar ein dwylo, roedd yn anodd gwybod be i'w neud. Yng ngwaelod y cae yr oedd ceffyl newydd f'ewyrth John, un broc, un o'r rhai hardda welsoch chi rioed. Dyn od ydi f'ewyrth John, neiff o ddim deyd y drefn yn iawn wrthych chi, fel dyn, am neud drwg. Mynd yn gaclwm gwyllt mae o, ac wedyn torri ei galon, a hanner nadu, ac mae'n gâs gen i weled dyn yn torri ei galon.
"Be ddyliet ti o fynd ar gefn y ceffyl acw, a ffogieth tipyn arno ar draws y cae?" medde fi wrth Wmffre. Ac nid cynt y deydes i nad oedd