Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/140

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad oedd o wedi blino dim. Pan gyrhaeddodd o adre un nosweth roedd y ddau blentyn ienga yn eu gwlâu, a'r ddau hyna,—Hannah a John,—wrth eu swper. Sgrifennu roedd Hannah ei henw ar damed o fara efo gwaelodion tun trieg, a John yn ei fwynhau'i hun trwy ddotio at ffurf ei ddannedd mewn brechdan doddion. Roedd Jane Jones, Pant yr Afon, wedi galw yno'n ystod y dydd efo'r toddion. Gwas ffarm oedd ei gŵr bithe, ond roedd hi wedi cael dau botied o'r ffarm ar ol priodas y ferch hyna yno. Ac roedd gan Ifan Owen, ynte, newydd da,—roedd o wedi cyfarfod â Mrs. Huws yr Hafod yn ystod y dydd, a hithe wedi deyd wrtho y cawse fo gwpaned o laeth enwyn yn rhad ond i rywun fynd i'w nol. Aeth John, y bachgen hyna, yno drannoeth i'w nol o, ac mi gafodd nid yn unig dunied o laeth, ond dwy feipen braf hefyd. Pan ddychwelodd Ifan Owen o'i grwydriade y nosweth honno, wylodd Elin Owen mewn diolchgarwch distaw, mhlant i, wrth y tân am fod y byd mor rhyfeddol o garedig wrth bobol ar lawr. Ac mi ddiolchodd Ifan Owen, ynte, ar ddiwedd y dydd, yn wresocach nag erioed, ar y tamaid carreg las a'r darn sach, am hael drugaredde Rhagluniaeth. Roedd o'n pwysleisio nad oedden nhw eto wedi eu darostwng i fara sych. Ac er nad oedd o 'n cofio, yng ngrym ei ddiolchgarwch, ddim ond am y nosweth honno, gwir a ddeydodd,—ia, gwir a ddeydodd o, canys roedd Rhagluniaeth wedi darparu digon o ddŵr genau hyd yn oed iddyn nhw i fwydo'u bara. Oedd, roedd digon o hwnnw."

Ac yn y fan yma cododd wedyn a phoerodd i bendraw'r efel. Erbyn hyn roedd pawb yn edrych arno fel tase ganddo gyrn ar ei ben. A fynte'n ddyn diarth hefyd. Dyna'r pnawn rhyfedda aeth Q