Wmffre wedi taro ar gynllun i'w ddal o, a dyma'r cynllun,—mynd â llond desgil o India Mêl iddo, i Wmffre gymyd yr India Mêl, ac inni ein dau redeg ar ei ol nes ei gael i gornel, i mi wedyn fynd y tu ol iddo fo, rhag ofn iddo droi'n ei ol, ac i Wmffre fynd o'i flaen efo'r India Mêl, a gafael yn ei fwng pan fydde fo yn ei fwyta. Er chwilio a chwilio, fedre ni yn ein byw gael yr un ddesgil, na bwced na dim. Yr unig beth yn y golwg yn unman, a ddalie rywbeth felly, oedd het i f'ewyrth oedd y tu ol i'r drws yn y tŷ.
"Ei het ore ydi hi, wyddost," medde Wmffre; "ond hidia befo, mi cymerwn ni hi, fydd hi ddim yn anodd ei chnau hi wedyn."
Wedi llenwi'r het ag India Mêl, allan â ni i'r cae. Pan welodd y ceffyl ni, dyma fo'n dechre trotian i ffwrdd, a ninne ar ei ol, ac ar ei ol hyd nes bod y ceffyl yn twymno ati hi wrth redeg, a ninne'n chwys diferol. O'r diwedd cawsom ef i gornel, ac eis inne o'r tu ol iddo, gan feddwl cael gafael yn ei gynffon, os methai Wmffre gyrraedd y mwng. Cawsom lawer o hwyl ein dau wrth afael yng nghynffon Mejar, mul du'r Felin, ac ynte'n ein tynnu ni fel y gwynt ar draws y caeau a thrwy'r gwrychoedd a'r ffosydd. Ond mi spwyliodd Wmffre bethe efo'r ceffyl. Yn lle mynd yn dawel at ei ben o, gan gofio nad ydi ceffyl ddim arfer cael bwyd mewn het, rhedodd ato a dangosodd yr het yn sydyn o flaen ei drwyn, a rhaid bod y ceffyl wedi dychrynnu. "Wb!" medde fo, ac mi deimlwn fy hun mewn rhyw wlad ddiarth, rhwng twyll a gole, a rhwng twyll a gole y bu hi arna i'n hir. O'r diwedd mi oleuodd dipyn mwy, a'r peth cynta weles i oedd Wmffre efo llond yr het o ddŵr, yn golchi ngwyneb i.