"Frifest ti'n arw, Nedw?" medde fo.
"Brifo be?" medde finne, gan synnu be oedd Wmffre eisio yn y wlad honno.
"Rwyt ti wedi cael cic ofnadwy yn dy foch," medde fo.
Teimles fy moch, ac yr oedd hi fel taswn i wedi cael tair neu beder dannodd yn syth ar ol ei gilydd. Roedd hi wedi chwyddo'n fawr ofnadwy, ac yn hongian. Codes ar fy nhraed, ond fedrwn i ddim sefyll. "Eistedd i lawr am dipyn," medde Wmffre, "ac mi awn ni am dro bach wedyn; ond gad imi redeg â'r het yma'n ol yn gynta. Eidïa dda oedd y dŵr yma, mae'r het rwan yn hollol lân, ond mi ges drafferth i gael yr India Mêl ohoni hi."
Aeth Wmffre â'r het yn ei hol, ac am dro â ni. Doedd gennym ni ddim llawer o flas i hel cnau a chrabas. Toc, dyma ni at y tŷ, ac mi glywem ryw sŵn mawr pan yn nesu ato fo. Wedi dwad i'w olwg, be welem ni, ond f'ewyrth John ar garreg y drws yn dawnsio, ac wedyn yn torri i nadu a chrio, tan ddal ei het ore yn ei ddwylo, ac edrych i mewn iddi hi. A nadu o ddifri yr oedd o, ac nid nadu o fregedd. Wel, fedra i ddim dal gweled hen bobol yn nadu, ac mi gychwynnes adre, a rhag ofn styrbio f'ewyrth cyn iddo gael ei nadu allan yn iawn, fe ddaeth Wmffre i'm hebrwng i. Dydio ddim yn beth iach, medden nhw, rhwystro dyn i gael ei nadu allan yn iawn.
Mi ddiolches lawer am y cic hwnnw. Arbedodd fi rhag ei chael hi wedi mynd adre, o achos roedd Miriam, fy chwaer, wedi deyd nad oeddwn i ddim yn yr ysgol y pnawn. Ac arbedodd fi yn yr ysgol drannoeth.