Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II.—GNEUD ZEBRAS.

Wedi i mi ac Wmffre fynd yn fawr, i Affrica yr yden ni'n mynd, i hela zebras. Er ein bod ni wedi ceisio gneud rhai yn y wlad yma, chawsom ni ddim rhyw lawer iawn o hwyl, am inni fethu dwad o hyd i'r oel iawn. Ardderchog o beth fase dal zebra, mae o'n medru rhedeg ynghynt nag unrhyw greadur arall. Mae o'n gyflymach hyd yn oed na mul bach, a 'does dim anifel yn ein gwlad ni cyn gyflymed a mul bach. Mae mul bach yn medru mynd ynghynt na'r trên, ac mi ddaru mul bach y Felin neud hynny hefyd, pan oedd nhad yn blentyn, medde fo. Hen ewyrth i Spargo fase'r mul hwnnw tase fo'n fyw. Wedi mynd ar y relwe yr oedd o, medde nhad, a dyma'r trên yn dwad, ac i ffwrdd â'r mul bach fel y gwynt o'i flaen o, ac mi fase wedi curo'r trên hefyd, onibae fod o'n mynd mor gyflym nes methu gweled pont y relwe. I honno yr aeth o, ac yr oedd wedi marw cyn i'r trên ei ddal.

Wedi inni ddarllen am y zebras yma yn llyfre'r ysgol, doedd na byw na marw wedyn gan Wmffre na faswn i'n addo mynd efe fo i Affrica wedi i ni fynd yn fawr, a dal zebras a'u ffogieth nhw. Ond y mae llawer o amser tan awn ni'n fawr, ac y mae eisio llawer o arian i fynd i Affrica, hynny ydi, os nad oes gennych chi Jac-yn-y-bocs. Mi neiff hwnnw yn lle arian. Mae gen i Jac-yn-y-bocs, ond rhaid imi ei gadw rhag i Isaac ei dorri o. Fy mrawd ieuenga i ydi Isaac, peder oed ydio, ac y mae o'n torri popeth