Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y caiff o afael arno. Mi wyddoch bedi Jac-yn-y-bocs. Wel, dene'r bocs yntê, ac ar y bocs mae ene fach, agorwch y bach, a whiw! dene'r caead i fyny, a chreadur bach penddu yn neidio allan ohono. Y gnethod sydd ag ofn Jac-yn-y-bocs arnyn nhw! Chlywsoch chi rioed fel y mae nhw'n gweiddi. Mi fu Wil Cae Du yn Affrica ddwyweth neu dair, a'r ail dro aeth â Jac-yn-y-bocs efo fo. Pobol dduon sydd yn Affrica, medde fo, run fath a'r rhai sy'n canu ac yn gneud gwynebe ar lan y môr yn yr ha, ac y mae nhw run fath a rheini mewn peth arall hefyd, medde fo, tyden nhw byth yn mynd i'r capel. Mae nhw'n meddwl mai Iesu Grist ydi lot o hen bethe bach fel Jac-yn-y-bocs, ac yn lle mynd i'r capel, medde Wil, mae nhw'n mynd ar eu glinie ac ar eu hyd ar lawr o flaen rheini. Ac fel yr ydech chi a finne'n ofni i Iesu Grist ein gweld ni'n gneud drwg, mae nhwthe yr un fath efo'r pethe yma,—y pethe yma ydi eu Iesu Grist nhw. Be ddaru Wil pan aeth o yno'r ail waith, ond mynd â Jac-yn-y-bocs efo fo, a hel y blacs yma at ei gilydd, ac agor y bocs yn sydyn o'u blaene nhw. Chlywsoch chi rotsiwn weiddi, medde fo. Wedyn mi osododd y bocs a Jac yn edrych dros ei fin, ar garreg, a deydodd wrthyn nhw, "gweithiwch chi rwan, y cnafon, rydwi'n gosod hwn i'ch gwylio chwi," ac roedden nhw'n gweithio fel nigars trwy'r dydd, medde fo, a fynte'n cael cysgu'n dawel, a fo oedd yn cael yr arian am iddyn nhw weithio. Felly, does dim isio i chi fynd ag arian i Affrica, os bydd gennych chi Jac-yn-y-bocs.

Wel, mae gen i Jac-yn-y-bocs, ac rydwi'n mynd i'w gadw fo tan awn ni i Affrica i ddal zebras, ac hwyrach y gwneiff y blacs yma eu dal nhw drosom ni.