Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond be gaem ni i feddalu'r paent? Roedd o'n galed ac yn sych. Paraffin mae nhad yn ei iwsio, rydwi'n meddwl, ond nid ar neges i nol paraffin yr oeddem ni, neu mi fase popeth yn iawn.

"Mi ddeyda iti be nawn ni," medde Wmffre, "mae ene botel yn hanner llawn o naw-math-o-oel yn y stabal acw, a siawns na neiff un o'r naw math y tro, mi rown ni hwnnw arno fo. Wedi mynd â'n negese adre, mi gafodd Wmffre'r oel heb lawer o drafferth, a ffwrdd â ni i'w gymysgu, ac mi gymysgodd yn ardderchog. Doedd ene ddim brwsh yn unman, ond mi ddaeth Wmffre o hyd i ddarn o glwt, a dyma ni'n rhwymo'r clwt am ben pric, ac roedd o'n frwsh dan gamp dybygsem ni. Mi fuom drwy'r pnawn yn chwilio am Spargo'r Felin, a'r paent wedi'i guddio yng Nghae Cnau Daear, ond methu ddaru ni. Wedi methu dwad o hyd i Spargo, meddyliasom am ryw greadur gwyn arall. Y mae gan Wmffre wningen wen, ond doedd o ddim yn fodlon trio'r paent arni hi, hyd yn oed i edrych weithie fo.

"Wyddost ti," medde fi, "dene Gweno'r Fron, mae hi cyn wynned a'r galchen, ac mae'r gwartheg i gyd yn y Cae Pella."

Cae ymhell o olwg pawb ar gwr y Tyno ydi'r Cae Pella, â choed o'i gwmpas o. A buwch ddiniwed, lonydd, ydi Gweno.

"Iawn," medde Wmffre, ac yno â ni ar ol cael y paent a'r brwsh. Roedd Gweno'n pori ymysg y gwartheg erill, ond doedd hi ddim yn anodd ei chael i gornel ar ei phen ei hun. Fi oedd y brwshiwr ac Wmffre'n dal y paent a'r papur. Wedi rhoi'r rhês gynta mi welsom ein bod ni wedi rhoi gormod o baent. A doedd y brwsh ddim yn rhyw weithio'n