Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel," medde fo, "fedrai ddim deyd ei bod yn rhyw lwyddiant mawr, ond hidia befo, welodd pobol y ffordd yma rioed zebra, fel y deydest ti."

Aethom tuag at Gweno a'i chychwyn at y gwartheg erill, a hithe'n mynd dan brancio a neidio fel zebra iawn. Dene oedd llwyddiant mwya'r paentio. Ond pan welodd y gwartheg erill hi, chlywsoch chi rotsiwn beth. Roedden nhw'n beichio ac yn rhuo, ac amdani â nhw fel un gŵr. Ac mi fasen wedi 'i lladd hi yn siwr ddigon, onibae fod Gŵr y Fron wedi clywed y sŵn, ac wedi dwad yno o rywle. Roeddem ni'n dau ar fin mynd i geisio'i hachub o'u gafael ar y pryd, ond pan ddaeth Gŵr y Fron i'r golwg, mi welsom nad oedd mo'n heisio ni, ac i ffwrdd â ni. Mae'n rhaid fod zebra'n filen wrth wartheg yn Affrica, a nhwthe'n talu'n ol wedi ei gael o i'w gwlad eu hunen, fel mae adar yn ymosod ar ddylluan yn y dydd, ond hi ydi'r feistres yn y nos, yn ei hadeg ei hun.

Roedd digon o baent yng ngweddill i neud dau neu dri o zebras erill, a dyma ni'n penderfynu ei gadw, rhag ofn y deuem ar draws Spargo'r Felin. Ac yn wir i chi, be welem ni, wedi dwad i'r ffordd fawr, ond Spargo'n pori'n dawel yn ochr y ffordd, gan lusgo'r drol ar ei ol yn aradeg. Ar y Gefnffordd yr oedd o. Hen ffordd gul â gwrychoedd uchel bob ochr iddi hi, ar odre'r mynydd, ymhell o'r llan, lle mae'r Jipjiwns yn aros, ydi'r Gefnffordd, a dim tŷ yn agos yno ond y "_Black Crow_." Wrth gwrs, gwyddem mai yno roedd Gŵr y Felin, ac wedi unweth mynd yno na ddeue fo oddiyno'n hir.

"Rwan amdani," medde fi, "mi fydd Spargo'n zebra erbyn y daw'r hen ddyn allan, dawn i byth o'r fan yma." A fase fo ddim llawer o anfantes i