Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Spargo fod dipyn tebycach i zebra, o achos roedd o'n wahanol iawn i'w hen ewyrth. Fase Spargo byth yn rhedeg yn erbyn pont y relwe heb ei gweld hi, nid am ei fod o'n well am weld, ond am ei fod o'n salach rhedwr, hynny ydi, fedre fo redeg dim.

Cawsom well hwyl ar Spargo, roedd practeisio ar Gweno wedi bod yn help inni, ac mi fasech yn ei gamgymeryd am zebra wedi inni orffen efo fo,—tase chi heb weld zebra o'r blaen. Y cwestiwn oedd ymhle i roi Spargo i sychu, ac yr oedd ynte'n dechre magu ysbryd zebra. Ac yn yr ysbryd hwnnw mi fase'n rhwbio ac yn cicio tasen ni'n ei rwymo.

"Dyma nawn ni," medde fi,—yr oedd yno lidiard fawr yn ymyl, llidiard y mynydd, ac mi welodd Wmffre'r cynllun cyn gynted a minne. Dyma ni'n gwthio breichie'r drol rhwng styllod y llidiard, ac yn rhoi Spargo yn ei ol ynddi yr ochor arall i'r llidiard, wedi ei chau hi. Yr oedd Spargo, felly, yn iawn yn y drol fel o'r blaen, ond fod y llidiard rhyngddo fo a'r drol. Fedre fo ddim symud oddiyno. Tase fo'n bacio, fedre fo neud dim ond bacio i'r llidiard, a tase fo'n tynnu, fedre fo ddim tynnu'r drol drwy'r llidiard. Fedre fo ddim mynd i'r ochre chwaith i rwbio. Ac yr oedd o erbyn hyn yn bur ysbrydol, fel zebra'n union. Dene lle roedd o felly i'r dim, yn aros i sychu.

Toc, dyma sŵn traed yn dwad o'r pellter, a phwy oedd yn dwad ond yr hen Bitar Jones y Felin, wedi hanner meddwi, a doedd dim i'w neud ond cuddio. Safodd yn ymyl y drol ac edrychodd yn hurt arni. Wedyn edrychodd ar Spargo, a theimlodd y llidiard rhyngddyn nhw. Fedre fo mo'u gweld nhw'n glir iawn, yn enwedig Spargo, am ei bod yn dechre nosi, ac ynte fel roedd o. Crafodd ei ben, "a-wel,

a-wel, a-wel," medde fo'n gyflym efo phob crafiad, fel giar fynydd. "A-wel, a-wel," mae gieir mynydd Cymreig yn ei ddeyd wyddoch, a "go-back, go-back," a ddywed gieir mynydd Seisnig. Safodd Pitar Jones yn llonydd wedyn, a dechreuodd ail grafu ei ben, a finne â nwy law ar gêg Wmffre rhag iddo fethu dal, ac medde Pitar Jones, "A-wel, a-wel, yn eno—a-wel—, wel Spargo, sut doist ti fel hyn?" Agorodd y llidiard a gwthiodd drwyddi i'r ochor arall at Spargo, a Spargo'n dawnsio, heblaw bod yn rhesi gwyrddion, a'r ddau beth yn ei neud yn wahanol iawn i'r hen Spargo. "Wel, wel," medde fo, "rwyt ti wedi dwad drwy'r llidiard yma fel ysbryd. Rhosa funud, bedi'r llinelle 'ma sy arnat ti?" ac edrychodd arnyn nhw'n fanwl. "Ow! annwyl," medde fo tros y wlad, "ysbryd Spargo ydio!" ac i ffwrdd â fo am ei fywyd.

Wedi i Wmffre a finne ddwad atom ein hunen, aethom i dynnu Spargo o'r ochor arall i'r llidiard, ond eyn inni fedru ei roi yn y drol, i ffwrdd â fo ar ol ei fistar fel y gwynt, gan adael y drol ar ol. Welsoch chi ddim tebycach i zebra yn eich oes, yn enwedig gan nad oedd hi ddim yn ole iawn ar y pryd.

"Dydio'n rhyfedd," medde fi wrth Wmffre, "fel y mae'r paent wedi rhoi ysbryd zebra yn y ddau, Gweno a Spargo, er na chawsom ni ddim gormod o hwyl ar eu paentio nhw."

Mi drychodd Wmffre arnai'n syn ac yn bryderus am dipyn. "Wyt ti'n siwr, Nedw," medde fo, "nad y naw-math-o-oel sy'n eu smartio nhw?" Feddylies i ddim am yr agwedd ene i bethe, ond doedd dim i'w neud ond gobeithio'r gore, a mynd adre. Er i ni rwbio'n hunen ag ired, a gneud ein gore i dynnu'r paent oddiar ein dwylo, methodd Q Wmffre a fi ei dynnu'n ddigon llwyr, na'u bodloni nhw gartre yn ei gylch. Ymhen ychydig, daeth y stori allan, a chlywodd nhad ac ewyrth John. Wmffre a fi ydi'r ddau debyca i zebra yrwan, a rhesi duon sy ar ein cefne ni hefyd,—nid mor ddu a rhai zebras hwyrach,—glasddu yden nhw.

Wnawn ni byth gymysgu paent efo naw-math-o-oel eto. Wmffre oedd yn ei le. Yr oedd Spargo cyn llonydded ag erioed erbyn dydd Llun. Ond y gwaetha ydi fod y paent wedi rhedeg dros Gweno a Spargo i gyd, yn lle aros yn llinelle, a fase fo ddim yn gneud hynny dase fo'n oel iawn. Ond rhoswch chi nes inni fynd i Affrica ar ol tyfu'n fawr.