"Yr argen fawr!" medde nhad, "Laura! Feder honno roi dim bwyd o'u blaene nhw ond tunie salmon, a chacenne ceiniog. Mi fyddan wedi llwgu, neu wedi marw o'r beil, cyn pen hanner yr amser."
Yr oeddwn i wedi moeli nghlustie ers meityn, ac Isaac wedi deffro. Ac o'r diwedd, wedi i ni ein dau ddangos fel yr oedd arnom ni ofn y sciarlet ffefar, cydsyniodd nhad. Ond nhad oedd yn iawn. Mi fase'n well gen i erbyn hyn taswn i wedi aros gartre i gael y sciarlet ffefar, yn lle cael Anti Laura, a'r sciarlet ffefar.
"Pryd cawn ni fynd?" medde fi wrth mam. "Dydd Llun," medde mam. Ac yr oedd hi yrwan yn nos Iau. Roedd tipyn o amser i aros, ond fase fo ddim llawer onibae am Isaac. Peder oed ydio, ac mae'n amhosibl stwffio dim i'w ben. Ac yr oedd arno eisio cychwyn bob yn ail munud. Bore drannoeth dyma fo ata i, a gofyn pryd yr oeddem ni'n mynd i dŷ Anti Laura. "Yr wythnos nesa," medde fi. Ac i ffwrdd â fo. Dyma fo yn ei ol cyn pen pum munud, ac yn gofyn,—
"Nedw, ai heddyw ydi'r wsnos nesa?"
"Nage," medde fi, "mae eisio cysgu dair gwaith eto." Ac i ffwrdd â fo wedyn. Tuag amser cinio roedd o ar goll, ac mi fuom yn edrych trwy'r pnawn amdano fo. Tua phedwar o'r gloch aeth mam i'r llofft, a dene lle roedd Isaac yn ei wely yn ei ddillad. Neidiodd mam iddo fo, a deffrodd. A'r peth cynta ofynnodd oedd, sawl gwaith oedd eisio cysgu wedyn cyn mynd i dŷ Anti Laura, gan ei fod o wedi cysgu un ohonyn nhw yn barod. Rhywbeth fel ene gefes i tan amser cychwyn. Mi fase'r sciarlet ffefar yn well na'i holi o. A phnawn Sul mi ddaeth i'r pen arna i.