Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llan - fair - pwll gwyn-gyll-go - gerychwyrn-dro - bwll -

Llan - ty - sil - io go - go - goch.

Ac mi wyddwn fod "Tôn y Botel" yn mynd ar "Gosodbabellyngngwlad Gosen."Ond sut i gysylltu Llanfairpwyllgwyngyll â Gwlad Gosen oedd y gamp, gan na fedrwn i ddechre "Tôn y Botel" ond ar y geiriau "Llanfairpwyllgwyngyll." Y gamp oedd medru dechre efo "Llanfair" a neidio ar y canol i "Wlad Gosen."

"Rwan," medde Anti. Mi ddechreues, ac yn wir i chi, mi lwyddes. Fel hyn y gwnes i, dechre canu "Tôn y Botel" trwy fy nannedd ar "Llanfairpwyllgwyngyll," a phan deimles fy nhraed dana, neidies i'r dim ar "Wlad Gosen," ac agores fy ngenau a chanu ymlaen.

Mae'r llythrenne mân yma'n tybio canu trwy ddannedd:—

Llan - fair-pwll-gwyn-gyll, yng ngwlad Gos - en.

Ac felly ymlaen.

Doedd dim diwedd ar waith Anti'n canmol a chusannu, a doedd na byw na marw na chanwn i wedyn. Ond gan fy mod yn gwrthod, roedd yn rhaid i mi addo canu nos drannoeth. Ac roeddwn i'n ofni hynny.FelMr.Williams y gweinidog yn dwad heibio acw efo'r saethwrs un diwrnod. Doedd o 'rioed wedi gafael mewn gwn o'r blaen.