Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cododd gwningen, taniodd Mr. Williams, a tharodd hi'n farw. Roedd pawb yn mynnu ei fod o'n hen saethwr, ac ynte'n chwyddo, ond ei gamgymeriad oedd trio wedyn. A dene ofnwn inne os canwn i wedyn.

Fel roedd pethe'n bod doedd dim dal ar Isaac eisio mynd adre drannoeth, a'r diwrnod hwnnw oedd diwrnod marchnad y dre, a'r cerbyde'n rhedeg yno. A gyrrodd Anti ni adre efo'r cerbyde.

Pan ddeydes i 'r hanes wrth mam,—"does ryfedd fod James, druan, wedi torri ei galon, ac wedi mynd i'r Sowth i weithio," medde hi.

O dan y Sciarlet Ffefar y mae Isaac yrwan, a finne'n disgwyl yn dawel amdani. Fydd hi ddim gwaeth nag Anti Laura. Ac eto dydwi ddim yn siwr, o achos roedd hi'n glên iawn yn ei ffordd.