"Dawn i byth yn symud!" medde fo. "Erbyn meddwl, roedd dyn yr het silc honno braidd yn fychan i'w het, a throwsus y llall hwnnw braidd yn llac. Ond meddwl ddaru mi mai dene'r ffasiwn rwan."
Mi safodd am eiliad heb ddeyd dim,—"Edward Roberts," medde fo, "mi ddylech fod yn falch o'ch mab. Doedd o ddim efo'r gweilch. Efo fi yn y tŷ yr oedd o ar y pryd. Fo a'i dangosodd nhw i mi."
Anadlodd nhad yn drwm drwy ei ffroene, a dwedodd "pnawn da." Synnwn i ddim ar ei ddull o anadlu nad ydio wedi cael tipyn o annwyd.
Mi redes i yn fy ol, ac yr oeddwn yn y tŷ pan gyrhaeddodd Jona.
"Nedw," medde fo, "pan ladda i'r mochyn, mi gei di ddarn o borc, a'r unig un o'r bechgyn geiff ddarn wyt ti. Nhw sy'n mesur fy nhir i, medde dy dad."
Eis ar ol y bechgyn toc, ond ches i fawr o groeso ar y dechre, am fod nhad wedi deyd wrth Jona mai nhw oedd yn mesur y tir. Ond wedi imi addo tamed o borc bob un iddyn nhw, roedd popeth yn iawn.
"Welwch chi, fechgyn," medde Jac y Gelli, "mi ddylem neud rhywbeth i ddwad â fo at ei goed. Be sy genoch chi yn eich pocedi?" Matshis oedd gan Wmffre, afal oedd gan Jac, cylleth oedd gen i. Roedd y bechgyn yn deyd mai cylleth blwm oedd hi, a minne mai cylleth ddur. Darn o linyn oedd gan Dic Twnt i'r Afon, a marblen a darn o fins pei oedd gan Bob y Felin. Aethom â nhw i gyd, a'u gosod ar garreg drws Jona, wedi iddo gau'r drws a mynd i'r tŷ.
Yna aethom at y ffenest i edrych be oedd Jona'n neud, o achos am guro'r drws yr oeddem ni, a mynd rownd y gornel i wylio'r croeso a gai'r presantie. Dydi hi ddim yn beth neis i ddangos gormod arnoch eich hun wrth bresantio neb.