ei ben o, a'i gwyneb fel eira, ac yn edrych fel tase hi wedi fferru. Beth oedd yno'n eistedd ar garreg, yng nghornel yr hen Sgubor, wedi ei gwthio'i hun dan gysgod y llwyn mafon duon, a hwnnw'n gwasgu arni, ac yn ei sgryffinio, ond hen hen wraig, digon hen i fod yn nain i nhad. Roedd hi â'i phen rhwng ei dwylo, a'i phenelinoedd ar ei phenneglinie, yn crio'n ddistaw. Codes y gangen yn uwch, i gael golwg gwell, rhag ofn mai breuddwydio yr oeddwn i. Cododd yr hen wraig ei phen, a gwelodd fi. "O! Willie bach, ac rwyt ti wedi dwad o'r diwedd," medde hi,—"lle buost ti, machgen i, mor hir, a dy fam yn dy ddisgwyl di ddydd a nos." Neidies i lawr, a rhuthrodd hithe i fy llaw i, a gafaelodd yn dyn ynddi.
"Ddaru nhw dy frifo di'n arw wrth drwsio dy ben di?" medde'r hen wraig. "Gad imi gusan, Willie bach." A gwenodd arnai'n dyner, dyner. Rhoddodd ei llaw am fy ngwddw, a chusannodd fi. Fedrwn i ddim yn fy myw feddwl am ei rhwystro, ond o ran hynny, roedd hi reit lân.
"Mi feddylies y cawn i di yma," medde hi, "dyma'r lle y brifest ti dy ben, yntê? Ydi'r dolur yn fawr, 'machgen i? Yn y fan yma roeddet ti pan ddisgynnodd y garreg, yntê?" Chwiliodd fy mhen yn ysgafn. "Wel," medde hi toc,—"mae o wedi mendio'n iawn,—a nhwthe'n deyd fod y garreg wedi d' orffen di! Ond choelie dy fam monyn nhw, 'machgen i. Ac rydwi wedi chwilio amdanat a chael dy fwyd yn barod bob dydd, Willie bach, er pan est ti i ffwrdd. A mynd â ti i'r gwledydd pell i dy fendio ddaru nhw?" A thynnai ei llaw yn ysgafn yn ol a blaen trwy fy ngwallt, o hyd, o hyd.