"Lle cest ti'r eneth bach yma, Willie?" medde hi, "mae hi fel shou o bropor,—feder hi siarad Cymraeg?"
"Na feder," medde fi, a dene'r gair cynta a ddaeth dros fy ngwefus. Ac roedd o'n wir, o achos fedre Jinny ddim, am y byd, ddeyd gair mewn unrhyw iaith. Dal i sefyll yr oedd hi, yn erbyn y wal, yn edrych fel yr angel ar garreg fedd y Plas, ond bod ei gwallt am ei gwyneb yn deyd na fedre hi fod yn neb ond Jinny.
Daliai'r hen wraig i edrych yn fy llygid, dan wenu a rhwbio fy llaw rhwng ei dwylo,—"Wel, Willie," medde hi, toc, "tyrd, 'machgen i, mae dy fwyd yn oeri. Ac mae hi'n dechre twllu." A dene hi'n gwthio trwy'r coed mafon heb feddwl am y sgryffinio, a finne'n ei llaw. Cyffyrddes law Jinny wrth basio. Deffrodd hyn hi, a medrodd ei hysgwyd ei hun yn ddigon i gychwyn ar fy ol.
Wedi dwad yn fwy i'r gole, trodd yr hen wraig i gael ailolwg arna i,—"Rhosa di, Willie," medde hi, "nid dyma'r siwt oedd gennyt ti'n cychwyn oddicartre'r diwrnod hwnnw?" Edrychodd yn fanylach,—a hanner neid oddiwrtha i. "Na," medde hi, "nid Willie bach wyt ti wedi'r cwbwl. Pwy wyt ti, dywed? Ai Edward y Wern?"
Roedd hi'n mynd yn dwllach o hyd. Edward y Wern oedd enw 'nhad, medde fo, pan oedd o'n fachgen. A digalon ydi cael eich camgymeryd am eich tad o flaen geneth.
"Wel, Edward," medde hi, â'i gwyneb fel y galchen, ond y gwaed oedd arno,—"ti oedd efo Willie pan frifodd o'n tê? Frifodd o'n arw, Edward bach?"