Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dechreuodd holi ynghylch brodyr a chwiorydd 'nhad, sy'n hen bobol,—ond fel plant y sonie hi amdanyn nhw. Edrychodd arnai'n hir, a minne arni hithe, a Jinny arnom i'n dau, fel tri mudan. Yn hollol sydyn beichiodd grïo,—"Na," medde hi, "wyddan nhw ddim byd am Willie bach, dim byd, dim byd." Gollyngodd fy llaw, fel tase hi'n lwmp o dân, ac yn ol â hi trwy'r coed mafon duon, a'r rheini'n ei sgryffinio i'r byw, heb iddi wybod, ac eistedd ar y garreg danyn nhw, yng nghornel y Sgubor, a rhoi'i phen wedyn rhwng ei dwylo.

I ffwrdd â Jinny a fi ar sgruth nes cyrraedd Coed y Felin,—wedyn, sefyll. "Rwan," medde fi, "am siarad yn iawn â hi." Ond choeliech chi ddim mai'r cwbl fu rhyngom oedd hyn. Mi godes fy mhen i siarad, a dene Jinny'n codi'i phen, ac edrych i fyw fy llygid i. Ac er bod fy ngwefuse'n agored, wnaen nhw symud dim yn ol nac ymlaen. Roedd y gwrid a gafodd trwy redeg, neu rywbeth, yn rhywbeth na fedrech siarad dim yn ei olwg. Gwyrodd Jinny 'i phen, a dechre sgwenu'i henw efo'i throed, fel wrth yr Hen Ffynnon. Fedrwn inne ddim peidio â dechre gneud yr un peth. Beth wnai'r hen bobol, tybed, oedd heb ddysgu sgwenu, ar adeg fel hyn? Dyma'r adeg y mae hi'n fantes bod dyn wedi cael tipyn o ysgol.

Mi lwyddes o'r diwedd i ddeyd gair, ond ddaru Jinny ddim ond gwrido, ac edrych arnai, fel taswn i'n un oedd wedi achub ei bywyd hi,—a chychwyn adre. Mi arhoses nes gweled ei bod bron cyrraedd eu tŷ nhw'n ddiogel, ac wedyn fel awel â fi, wedi chwysu cyn cychwyn.

"Ymhle y buost ti mewn difri, Nedw?" medde mam.