"Yn hebrwng Robin bach Ty'n Llidiard," medde fi. Sonies i ddim am y peth mae nhw'n alw'n "ac felly mlaen."
Fedrwn i fwyta fawr o dê, ac yr oedd mam yn bur bryderus.—"Fuost ti ddim yn hel mafon duon?" medde hi,—"mae dy geg di'n ddu."
"Dipyn bach," medde finne. A dene'r 'gom i gyd.
Ar amser swper deydodd nhad wrth mam,—"Mae nhw wedi ffeindio'r hen Fetsen Jenkins unweth eto."
"Yden?" medde mam.
"Yden," medde fo. "Jones y Plismon a'i daliodd hi'r tro yma yn edrych allan trwy un o dylle ffenestri Sgubor Robert Green, ac yn gweiddi 'Willie,' â'i gwyneb yn waed i gyd."
"Pwy ydi honno?" medde fi, yn wylltach nag y dylwn i. Ddeydodd neb ddim am dipyn,—"Hwyrach mai'r ysbryd welson nhw, 'nhad," medde fi, â fy ngwyneb yn rhyw ddechre gwynnu er fy ngwaetha.
"Nage," medde mam,—"does ene'r un ysbryd."
"Pwy ydi Betsen Jenkins?" medde fi.
"Wel," medde nhad yn ara, "hen wraig ydi hi o'r ochor arall i'r Foel Ddu. Mae hi'n crwydro'r wlad ar adege, er pan ydwi'n cofio, bron. Roedd ganddi fachgen unweth, tua'r un oed â fi, o'r enw Willie. Mi lladdwyd o wrth hel mafon duon yn Sgubor Robert Green." Ond mi gadwodd 'nhad y gweddill o'r stori—ei fod o efo Willie ar y pryd—iddo fo'i hun.
Rhyw bigo'i bwyd ac edrych yn syn oedd mam. Toc, mi welwn ddeigryn yn hel i gornel ei llygad,—"Nedw," medde hi, "nei di addo un peth i dy fam?" Dydi hi byth yn deyd "i dy fam," ond pan fydd rhywbeth go anodd i'w neud yn dwad.