ddim ydech chi'n teimlo weithie fel tasech chi wedi bod yn y byd yma rioed,—rydwi'n teimlo felly weithie, yn hen, hen iawn, a'r adeg honno tydi Mynydd y Foel ddim yn hen, na'r afon bach dan tŷ, na hyd yn oed Plas Bodidwal. Ac mae'r cwbwl yn hŷn o lawer na taid, medde nhad, ac mae nhad yn hen ddyn, agos i ddeugien oed, medde fo. Ar ol bod yn chware ar ffordd Mynydd y Foel, ac i Wmffre, a Jac Ty'n y Wal, a Morus yr Allt, fynd adre a ngadael inne fy hun, rydwi weithie'n teimlo mod i'n hen. Rydwi'n chware efo'r Foel a'r afon bach, fel tase nhw'n blant. Wrth gwrs, dydi'r Foel ddim yn rhedeg o gwmpas efo fi run fath a'r afon, mae hi'n llonydd, fel Isaac 'y mrawd bach, pan fydd Wmffre a fi a fynte'n chware. Eistedd yn llonydd mae Isaac, fel y byddwn ni'n deyd wrtho fo, ond mae o'n chware er hynny. Felly y mae'r Foel, yn eistedd yn llonydd, a'r afon bach a finne'n rhedeg a chwerthin. A faswn i ddim yn medru meddwl am John Huws y Groshiar yn chware efo nhw. Mae nhw'n hŷn lawer na John Huws, medde nhad, a rywsut fedra i ddim meddwl y base fo'n medru eu dallt nhw. Ac wedi i mi fod yn chware efo nhw, rydwi'n edrych ar nhad a mam, fel mae nhw'n edrych arna i bob amser, yn rhywun i'w ordro o gwmpas.
Fi sy'n clymu tei nhad ar fore Sul, feder o ddim clymu'r pethe ffasiwn newydd yma, ac os bydda i wedi bod yn chware efo'r afon bach dan tŷ a'r Foel, nos Sadwrn, rydwi fel taswn i eisio deyd wrtho fo am ofalu bod yn fachgen da yn y capel, a pheidio bwyta fferins, a chnoi ei gadach poced, fel mae nhw'n deyd wrthym ni. Mi ddeydes hynny wrtho fo unweth, heb feddwl, a chlywsoch