chi rioed fel roedd o a mam yn chwerthin, nes siglo a gwasgu eu hochre. Meddwl oedden nhw mai smalio oeddwn i, a finne'n cochi at fy nghlustie pan weles i be ddeydes i, ac, wrth gwrs, doedd dim i'w neud ond cymyd arna mai nhw oedd yn iawn. Dydwi ddim wedi deyd y pethe yma wrth neb, hyd yn oed wrth Wmffre nghefnder, rhag ofn iddyn nhw chwerthin am fy mhen i, a meddwl nad ydwi ddim yn gall, ac os unweth y gneiff y bechgyn feddwl nad ydech chi ddim yn gall, wel, mae hi'n amser i chi adael yr ysgol, neu gael glasenw, a dydwi ddim ond deg oed eto.
Ond, yn wir, rydwi'n teimlo'n rhyfedd weithie. Dene'r hen dderwen fawr, yn y coed mae nhw'n alw'n Nyrs Goed Llus, mae hi â thwll digon maint ynddi i chi gadw picnic ynddo fo, a dydi John Huws y Groshiar ddim yn ei chofio hi'n cael ei phlannu, medde fo wrth lot ohonom ni oedd yn ei holi yn ei chylch; ond pan oeddwn i yn y Nyrs, y diwrnod o'r blaen, ar fy mhen fy hun, mi roddes fy mreichie amdani i'w chusannu,—roeddwn i'n teimlo'n gymint o ffrindie efo hi. Rywsut, dydwi ddim yn leicio'r coed ifinc, dyden nhw ddim yn cofio dim byd, ond rhaid fod y dderwen yn cofio pethe sydd wedi digwydd ers talwm, cyn i John Huws gael ei eni, ac rydw inne'n eu cofio nhw, weithie, pan fydda i ar fy mhen fy hun. Mae'n well gen i 'r dderwen yma na'r un sydd wrth bont y Llan, am ei bod hi'n fwy unig.
Dene'r hen dwmpath wrth odre'r Foel, yn ymyl Bedd y Porthmon, a'r afon bach yn rhedeg heibio iddo fo. Mae ene borthmon wedi ei gladdu yn y fan honno. Ystalwm iawn, medde nhad, roedden