nhw'n pedoli gwartheg, gwartheg cofiwch, nid cyffyle, yn y dolydd, ac yn eu cerdded nhw i Loeger, a'r porthmyn ar gefne eu cyffyle yn eu gyrru nhw, ac yn dwad yn ol efo llond pob man o arian. Wel, mi ddaru lot o ddynion oedd yn cyfarfod yn y "Black Crow" fynd i gyfarfod un porthmon, a'i ladd o, a chymyd ei geffyl a'i arian oddiarno, a rhedeg i ffwrdd o'r wlad, na welodd neb byth monyn nhw, wedi ei gladdu o yn gynta yn y bedd yma, yn ymyl yr hen dwmpath. Roeddwn i'n pasio'r hen dwmpath un pnawn Llun, y gaea dwaetha, wrth ddwad o'r ysgol. Ryden ni'n byw ymhell o'r ysgol, ar odre'r Foel, a does dim eisio i chi gario grug i gynnu tân yn ein tŷ ni, dim ond mynd i dop y Foel, a thynnu baich na feder dyn mo'i gario fo, ac wedi ei rwymo, rhoi cic iawn iddo. Welsoch chi rioed fel y mae o'n rowlio i lawr, ac yn neidio tros y gwrych i'r ardd.
Mae ene dwll yn y twmpath, i lawr o'r golwg, dipyn yn llai na thwll gwningen, ac roedd hi'n dechre nosi'r pnawn yma, pan oeddwn i'n pasio, ond fedrwn i ddim peidio aros i orwedd ar y twmpath, i edrych i mewn i'r twll, ac yr oedd yr afon bach yn rhedeg wrth fy nhraed i, ac yn cadw sŵn fel arfer. Mi ddalies i edrych i'r twll yn hir, heb weled dim byd, nes mynd i deimlo'n drymllyd. Mi feddylies toc mod i'n gweled gole'n symud yn ei waelod o, heb fod yn ddim mwy na gole pry gole. Wrth imi ail edrych, mi welwn rywbeth fel pry yn dwad i fyny'r twll, gan godi un goes, a dal cannwyll fechan, fechan, â'i droed. Roedd arnai dipyn bach o ofn i ddechre, ond rywfodd roedd arnai awydd mawr hefyd gwybod be oedd y pry rhyfedd yma.