Pan ddaeth o i geg y twll, mi ddalies fy llaw, ac mi gamodd i'm llaw i, gan ddal y gannwyll o hyd â'i droed. Mi geisies chwythu'r gannwyll, ond pan ddaru mi hynny, neidiodd oddiar fy llaw i, a safodd ar lawr, a dyma fo'n chwyddo, ac yn chwyddo, ac yn chwyddo, nes bod mor fawr a nhad, a be oedd o ond hen ddyn. Wel, mi ddychrynnes dipyn, a phan welodd o fi felly, chwerthodd dros y wlad. "D'wyt ti ddim yn fy nabod i, rhen Nedw?" medde fo. "'Rhen Nedw" mae Wmffre'n fy ngalw i hefyd, pan fyddwn ni'n fwy nag arfer o ffrindie.
Yr oedd rhywbeth mor gynnes yn chwerthin yr hen ddyn, nes imi benderfynu mynd yn nês ato. Roeddwn i'n ei nabod o'n iawn, ond fedrwn i yn fy myw gofio ar y funud pwy oedd o. Roedd o'n dawnsio mor ysgafn fel y cynhygies i chware efo fo. "Ddim heno," medde fo, "mynd i'n gwlâu mae'r hen wraig a finne—edrych i'r twll." Mi edryches wedyn, a'r hen ddyn yn dal y gannwyll imi, a gwelwn bry arall yn dwad ohono fo. Dalies fy llaw i'r pry hwnnw hefyd, ac mi ddaeth arni hi. "D'wyt ti ddim yn ei nabod hi?" medde'r hen ddyn,—"edrych di'n iawn rwan." Wrth imi ddal i edrych, mi chwyddodd y pry hwnnw hefyd, a be welwn i o mlaen i, ond hen wraig yn chwerthin mor lawen a'r hen ddyn. "Wel yr hen Nedw!" medde hi, gan daflu ei breichie am fy ngwddw i, a 'nghusannu nes bod bron imi golli ngwyneb. Ac er nad ydwi byth yn leicio'r hen gusannu yma, roeddwn i wrth fy modd, a doedd neb yn edrych. Fedrwn i neud na rhych na gwellt ohonyn nhw, er na fues i rioed yn fwy wrth fy modd efo neb. Roedden nhw'n nallt i rywsut yn well na hyd yn oed