Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan oedd modryb Ann yn sâl, a'r doctor yn deyd y base potes gwningen yn ardderchog iddi hi, mi es, ar ol tê un nosweth, dros f'ewyrth at y cipar, i ofyn am un, gan nad oedd Wmffre gartre. Y mae tŷ'r cipar yn y coed, dipyn oddiwrth Bodidwal, ac y mae'n rhaid i chi fynd drwy goed, ac wedyn heibio Bodidwal, ac wedyn drwy goed, i fynd yno. Roedd hi'n dechre twllu pan oeddwn i'n cychwyn, ac mae ene lofft wedi ei chloi ym Modidwal na fu neb erioed ynddi hi, ac mae gwaed ar y wal, medde nhw. A deyd y gwir i chi, roedd arna i ofn mawr wrth fynd drwy'r coed cyn dwad at y Plas, a phan roddodd rhywbeth sgrech yn y coed, meddylies fod fy nghap ar fy mhen i fel tase fo ar dop gwrych, fel yr oedd fy ngwallt i'n codi. Roedd hi cyn dwlled a'r fagddu, ac roeddwn i braidd yn falch o hynny weithie, ac yn cerdded ar flaene nhraed, ond er fy syndod, fel roeddwn i'n agoshau at Fodidwal, roedd hi'n mynd yn oleuach o hyd.

Rhaid i chi fynd heibio ffrynt y Plas i dŷ'r cipar, ac ar wal y ffrynt, uwchben y ffenestri, ffenestri bychin duon, mae ene rês o hen wynebe cerryg. Mae ene un efo trwyn smwt, a'r llall wedi colli'i glust, a'r llall efo clustie ci, a'r llall heb ddim ond un llygad. Penderfynes na chodwn i mo mhen i edrych arnyn nhw, y rhedwn i heibio iddyn nhw fel y gwynt, o achos mi fum i ac Wmffre'n lluchio cerryg atyn nhw fwy nag unweth wrth basio'r Plas, a neb gartre, a dydwi ddim yn siwr nad ni a roddodd drwyn smwt i'r un sydd hefo un rwan. Ond er imi benderfynu, fedrwn i ddim yn fy myw beidio edrych. Pan godes i mhen roedd hanner ucha'r Plas yn reit ole, a'r penne i gyd yn y golwg, a'r cynta yr edryches i arno oedd yr un efo un