Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VII.—EOS Y WAEN.

Ddisgwyliodd Wmffre a fi rioed gymaint am ddim ag a wnaethom ni am nosweth y Majic Lantar, a chawsom ni rioed ein siomi gymaint mewn dim. Mi fase'n siom hollol onibae am un llygedyn yn y diwedd. A hynny am ddau reswm. Y rheswm cynta oedd Daniel Williams, Eos y Waen, ac mi soniaf am y llall yn nes i ddiwedd y stori,—mi drodd hwnnw'n dipyn o fendith i ni.

Does arnom ni'r bechgyn ddim ofn neb yn yr ardal i gyd ond Daniel Williams, Eos y Waen. Ac y mae o'n llwyddo i ddwad ar ein traws ni ymhobman, hyd yn oed yn y lleoedd mwyaf annhebyg, fel y cewch chi weld.

Os sibryda rhywun pan fyddwn ni ar ganol chware fod Daniel Williams, Eos y Waen, yn dwad, dene ddigon. Diflanna pawb fel tase'r ddaear wedi eu llyncu ar darawiad amrant. Os bydd y llyncu hwnnw'n amhosibl, ryden ni'n gadael ein tacle chware yn y lle y mae nhw, prun bynnag ai marbls, neu pegi, neu gneuen goblo fydd ar droed ar y pryd, ac yn ffurfio'n llinell mor agos i'r wal neu'r gwrych ag y medrwn ni, a'n gwasgu'n hunen iddyn nhw nes i'r pigie fynd i'n cnawd ni, os gwrych fydd tu ol i ni. Fel y daw Daniel Williams i'r golwg, ryden ni'n edrych arno heb dynnu'n golwg oddiarno fo, a'i ddilyn â'n llygid gan sylwi'n fanwl ar bob symudiad, yn enwedig ar ei chwythu o. Mi gaf sôn am hwnnw eto. Wedi iddo basio mae hi bob amser yn helynt, a Morus yr Allt sy'n ei dechre fel rheol. Dydi Morus ddim yn dwad i'n capel ni, ac y mae Daniel Williams, Eos y Waen, yn dwad.