Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Weldi o'n chwythu," medde Morus bob amser ar ol iddo basio.

"Cofia di," medde fi neu Wmffre, neu Willie'r Pant, neu rywun arall fydd yn dwad i'n capel ni, "ei fod o'n fardd." Os bydd bechgyn diarth yn ein mysg ni, eu cwestiwn nhw bob amser ydi bedi bardd.

"Dyma ydi bardd," ydi ateb Morus yr Allt, "dyn yn chwythu ac yn tagu fel injian ddyrnu bob amser."

"Nage," ydi ateb Bob y Felin neu rywun tebyg iddo fo, sy'n mynd i'r capel ucha,—"dyn yn medru codi——," wel, mi gaf ddrwg am ddeyd yr un gair ag a ddeydodd o, o achos un yn deyd geirie mawr ydi Bob. Ond yr hyn mae o'n feddwl ydi mai dyn yn medru codi ysbrydion drwg ac yn eu rhoi nhw i lawr ydio.

Ar hyn, mi neidia rhywun arall i mewn a deyd, "Os felly, dydi Daniel Williams ddim yn fardd yrwan o achos mi ddaru'r ysbrydion drwg fynd yn fistar arno fo unweth a'i dynnu drwy gant o wrychoedd."

Rydwi wedi clywed yr ymgom ene bellach ugeinie o weithie. Ond er mod i wedi hen arfer â hi, fedrai ddim pasio Daniel Williams heb arswyd. Ond y tro cynta y clywsom ni hi i gyd, yr adeg honno y cawsom ni'n dychrynnu'n iawn. Un diwrnod yn y gaea, ryw dair blynedd yn ol oedd hi, a nifer o fechgyn wedi bod yn chware'n rhy hir ar eu ffordd o'r ysgol. Yr oedd hi'n twllu'n gyflym cyn inni gyrraedd adre, ac mi ddaeth yn gawod drom o law, a ninne'n aros i ymochel dan bren. Pwy a welem ni'n ymochel rhwng twyll a gole yr ochr arall ond Jona'r Teiliwr. Dydi pobol ddim yn edrych ar Jona fel yn rhyw gall