Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel dwy swigen. A rhwng pob anadliad mae o'n crychu a chodi a gostwng ei drwyn yr un fath yn union a gwningen. Yn y capel mae o'n gneud hyn ore, ac mi wyddom oddiwrth ei ddull o sut bregethwr sy'n y pulpud.

Weithie pan fydd y pregethwr yn gweiddi ac yn ratlo, nes bod yn goch ei wryneb, ac Wmffre a fi'n meddwl mai dyma'r pregethwr gore a glywsom ni rioed, mi drycha un ohonom ar Daniel Williams, yna pwtian y llall a deyd,—"Dydi hwn fawr o bregethwr."

"Sut y gwyddost ti?" medde'r llall.

"Dydi Daniel Williams ddim yn chwythu'r nesa peth i ddim," medde'r edrychwr.

Weithie fel arall y mae hi. Dyn tawel fydd ambell bregethwr, a ninne'n mynd braidd yn anesmwyth, ac edrych o gwmpas. Yn sydyn, mi wêl un ohonom Daniel Williams, ac mi ddywed wrth y llall,—

"Dy! lad, dyma iti bregethwr." A'r achos o hynny ydi'r olwg ar Daniel Williams. Mi fydd ei foche fel megin, a'i drwyn yn mynd i fyny ac i lawr gymint fyth, a rhyw ole rhyfedd a diarth yn ei lygid o fydd yn ein llonyddu, nes inni fethu â chwerthin, er gwaetha'r ystumie. Mi welwch, felly, rhwng popeth, fod Daniel Williams yn ddychryn i ni i gyd. Mae gan hyd yn oed nhad ryw hanner ofn Daniel Williams. Mi ofynnes iddo un diwrnod,—

"Nhad, pam na newch chi roi smocio heibio?"

"Wel," medde nhad mewn rhyw arswyd, "glywest ti'r stori honno am Daniel Williams, Eos y Waen? Mi benderfynodd ynte unweth roi smocio heibio, a threiodd hi am flwyddyn. Mi guddiodd ei faco a'i getyn mewn twll yn y cae dan tŷ, a chyn brecwest bore pen y flwyddyn mi aeth yno