Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel yn petruso trwy ba ddrws i fynd i mewn, agorodd un o'r dryse, a'r bobol yn dechre dwad allan. Mi ddechreuodd gwefuse Wmffre grynu. "Hidia befo," medde fi, "raid inni ddim deyd adnod." A dene ni'n troi'n ol a dechre toddi i mewn i'r gynulleidfa.

"Helo!" medde llais fel taran o'u canol nhw, "ymhle y buoch chi?" "Dowch i mewn bobol," medde'r llais wedyn, fel taran arall. Ac i mewn â phawb. Wedi inni godi'n llygid, pwy oedd yn edrych i lawr arnom ni fel un o'r pethe hynny fedre fo godi a gostwng, ond Daniel Williams. Ddeydodd o ddim, ond edrych arnom ni. Ac roedd hynny'n ddigon. Roedd y distawrwydd yn llethol, a'r torri cyntaf arno oedd ein gwaith ni'n snyffio crio. Yna gofynnodd Daniel Williams inni am adnod.

"Cofiwch wraig Lot," medde Wmffre dan ddal i snyffio crio.

"A Job a atebodd ac a ddwedodd," medde finne yn yr un gyflwr a fo.

Dene lle buom ni wedyn allan o hydoedd yn gwrando ar Daniel Williams yn deyd hanes Job a gwraig Lot. Mi allswn i feddwl ar ei stori o, yn ol yr hyn oeddem ni'n ddallt arni, fod y ddau'n ffrindie mawr. Wedi iddo fo orffen deyd hanes y ddau, aeth pawb adre.

Yr oedd arnom ni ofn Daniel Williams o'r blaen, beth am yrwan, te? A dene sut roedd hi ar bethe rhyngom ni a Daniel Williams ddiwrnod y Magic Lantar, pan ddaru ni neidio o'r badell ffrïo i'r tân.

Y gweinidog o'r dre oedd yn dwad i roi Magic Lantar, i dynnu tipyn ar ddyled y capel. Mi ddaeth yn gynnar yn y pnawn i'r Hendre yn ei gerbyd, a'i