Mae'n wir fod y ferlen yn mynd, ond doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Er tynnu at yr awenne a phlycio a neidio, a sgrechian, doedd dim yn tycio,—methu â chael ei charne i wichian ddaru ni.
Wrth gwrs, doedd gennym ni ddim syniad sut i droi trofa, neu basio rhywbeth ar y ffordd. Y peth a wnaem ni'r adeg honno, oedd tynnu at yr awenne nes i'r ferlen stopio, a mynd i lawr a gafael yn ei phen. Wedi dwad heibio braich olaf y ffordd, yr oeddym yn rhydd i fynd fel y mynnem wedyn, a chafodd y ferlen fynd, a ninne'n y cerbyd yn dawnsio a neidio a gneud y sŵn mwyaf priodol i'r amgylchiade. Mi ddaru'n gyrraedd y Waen rywsut heb feddwl, a phwy oedd yn sefyll ar ganol y buarth, yn chwythu yn ddigon trwm i'n taro ni i lawr, ond Daniel Williams ei hun. Daeth ymlaen heb ddeyd gair, gafaelodd yn y ferlen oedd yn laddar o chwys, a throdd ei gefn arnom. Mi ddaru'n i'n dau sylwi fod ei war o'n goch iawn wedi iddo droi. O'r cerbyd â ni fel awel, a heibio'r gornel o'r golwg cyn i Daniel Williams ddwad yn ei ol, neu wn i ddim sut y base hi arnom ni.
"Wel," medde Wmffre, "dene ddigon ar Daniel Williams,—y Magic Lantar bellach." Doeddem ni ddim wedi meddwl am ddim arall ers wythnose. Ac i feddwl ein bod ni wedi cael gyrru cerbyd dyn y Magic Lantar. Mi wyddem y bydde dannedd y bechgyn i gyd yn rhedeg. Dene fynd i'r capel, a gosod ein hunen mewn lle amlwg i weld pethe, ryw ddwylath oddiwrth y gynfas. Toc, mi gododd y gweinidog. "Dydi'r cadeirydd ddim wedi dwad," medde fo, "ac mae'n bleser gen i ofyn i Daniel Williams, Eos y Waen, gymyd ei le." Mi gurodd pawb eu dwylo ond Wmffre a fi. Dyma Daniel