"Be tase ni'n dal y ceiliog, a'i anfon i lawr y simdde ar ei ol?" medde fi wrth Wmffre.
"I'r dim," medde Wmffre, ac i chwilio am y ceiliog â ni.
Rhuthrodd Wmffre iddo fo, ac i ffwrdd â fo yn syth dros y gwrych i'r mynydd. Mi weles yn union fod yr hen air,—"Yn ara dêg mae dal yr iâr"—yn wir am geiliog hefyd. Ond y mae gan Winnie Jones ddau geiliog, ac am y llall â ni. Wrth fynd yn amyneddgar cawsom o i'r cyt, a'i ddal mewn dim amser. Dechre sgrechian dros y wlad wnaeth o, ond mi dewodd yn fuan. I fyny'r tô â ni, a'i ddal uwchben y simdde. Buom yn petruso tipyn ai'r peth gore oedd ei roi i lawr ai peidio. Cofies i fod mam reit amal yn dal y gath a mynd â hi at dwll llygoden. Ac os gosod cath i ddal llygoden, pam nad gosod ceiliog i ddal jac-dô? Doeddem ni ddim wedi sylwi fod neb yn y golwg, a phan oeddem ni'n ymresymu ynghylch y ceiliog,—
"Helo," medde rhywun fel taran odditanom ni.
Mi ddychrynnes gymint nes gollwng y ceiliog o nwylo. I lawr y simdde â fo, a dene'r jac-dô allan fel bwlet. Chlywsoch chi rotsiwn sŵn a'r un ddoi o'r tŷ. Roedd y ceiliog yn sgrechian a gweiddi, ac fel tase fo ymhob man ar unweth. Mi syrthiodd trwy'r simdde i'r gegin yn lle bachu'r jac-dô ar ei ffordd. Mi ddaru ni cyn gadael gyfri saith o blatie'n disgyn o rywle, ac yn torri'n chwilfriw.
Pwy oedd yn y ffordd yn aros amdanom ni ond William, brawd Wmffre, sydd newydd ddarfod ei goleg. Bu raid esbonio'r neges ar ben y tô, a meddwl ddaru William, wedi clywed y stori, nad oedd yr eidïa o roi ceiliog i ddal jac-dô yn un ddwl, tase'r ceiliog yn un teilwng. Roeddem