Roedd golwg mawr arno, yn poeri baw, a rhwbio'i wyneb â glaswellt, a disgrifio'r llo. "Nid llo ydio," medde Wmffre, "ond ceffyl râs a mul wedi'u cymysgu,—yn rhedeg fel ceffyl râs a stopio fel mul."
Wedi cael Wmffre'n weddol lân, a'i dawelu, yr anhawster oedd beth i'w neud â'r llo, o achos symude fo ddim. Doedd dim i'w neud ond ei droi yn ferfa trwy godi ei ddau droed ol fel breichie berfa, a'i wthio.
Ond i ble i fynd â fo? Roedd ei gartre'n rhy bell i'r dull yma o drafaelio. Roedd dwy ffarm yn ymyl,—y Graig a'r Waen. Cofiasom fod llo'r Graig wedi marw ddeuddydd cyn hynny, a bod iddo, felly, le yng nghornel hwnnw, ac yno ag ef. Doedd neb o gwmpas. Wedi gorffen dene eistedd i lawr i orffwys, o achos gwaith caled ydi gneud berfa o lo.
Ymhen tipyn mi glywem sŵn. Seina 'r forwyn oedd yn dwad i odro. Doedd dim i'w neud ond cuddio nes cael y ffordd yn glir i fynd adre. Dechreuodd Seina odro, a phan oedd y stên bron yn llawn brefodd y llo o'i gornel, cornel dipyn yn dwyll. Dene sgrech, y llaeth ar hyd y llawr, a Seina allan o'r côr fel ergyd o wn dan weiddi,—"Y llo wedi adgyfodi oddiwrth y meirw. Dyma'r diwedd wedi dwad. Yr udgorn a gân, a'r meirw a gyfodant." Un dda iawn am ddeyd adnode ydi hi. Rhag ofn fod rhywun arall yn ymyl, doedd dim i'w neud ond mynd adre gynted gallem ni, oherwydd roedd yn amlwg ein bod ni wedi gneud tipyn o gamgymeriad.
Pan yn ymyl y tŷ eisteddasom i orffwys,—"Nedw," medde Wmffre, "ydi bod yn ddiymhongar yn rhinwedd, dywed?"