IX.—DEWYRTH A BODO.
Un gwirion ydi dewyrth, beth bynnag, o achos mae o'n meddwl nad oes neb yn gall ond fo, ond rydwi wrth fy modd efo fo er hynny. Gŵr bodo ydio. Am bodo, un yn siarad bob amser fel tase hi'n gyrru'r gath allan o'r bwtri ydi hi. Dydi dewyrth yn gneud dim byth pan fydd o hefo chi, ond eich holi. Yr un math o gwestiyne sydd ganddo fo bob amser,—rhai o'r Beibil. Ac rydwi'n leicio'i gwestiyne fo, o achos tydio ddim yn disgwyl i neb eu hateb nhw. Eu gofyn mae o er mwyn cael cyfleustra i'w hateb nhw'i hun, ac er mwyn cael ei wynt. Mae'i wynt yn fyr, ac y mae gofyn cwestiyne'n fantes iddo fo orffwys wrth fynd i fyny allt.
Fel arall y mae bodo, ac mae'n gas gen i hi. Mae hi'n gofyn cwestiyne fel tase hi'n awyddus i roi cweir i chi, ac yn gobeithio na fedrwch chi mo'u hateb nhw, er mwyn iddi gael esgus dros neud.
Un bore yn y gwylie ha, roeddwn i'n mynd yno dros mam. Pwy oedd yn eistedd i orffwys yng ngwaelod yr allt ond dewyrth.
"Rhosa, Nedw," medde fo. "Wyt ti'n mynd acw?"
"Ydw," medde finne.
"Cymer ofal," medde fo, "dydi hi ddim yn ei phethe heddyw. Mae'r ffit lân arni hi. Rhaid iti dendio dy begie. Rhosa funud mi ddo i efo ti."