Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Prun, Nedw?" medde fo.

"Dyn tal," medde fi. Cododd ac aeth yn ei flaen gam, ac eistedd wedyn, dan yr un amgylchiade ag arfer.

"Sut gwyddost ti?" medde fo.

"Dwn i ddim," medde fi, "ond mod i'n meddwl."

"Thâl meddwl ddim i grogi dyn," medde dewyrth yn ffrwt, a'i wyneb yn goleuo. "Dyn byr oedd Paul," medde fo, "y lleia ohonyn nhw i gyd." Ac yn ei flaen â fo. Eisteddodd wedyn, ac edrych arna i fel tase fo eisio i mi ofyn cwestiwn arall.

"Sut hynny?" medde fi.

"Mae o'n deyd ei hun," medde fo,—"Myfi y llai na'r lleiaf o'r holl saint,—y byrra ohonyn nhw i gyd oedd o'n siwr i ti. Dene iti adnod ar y pwnc i'w dysgu erbyn y Sul nesa."

Erbyn hyn yr oeddem ni ar dop yr allt, ac yn ymyl ei dŷ o a bodo,—tŷ bychan ar dop yr allt ydio,—a dewyrth, bellach, yn medru cerdded heb bwffian a phesychu, ac am hynny 'doedd dim achos gofyn mwy o gwestiyne.

Wrth fynd at y drws, "Cymer di ofal," medde dewyrth dan ei lais, "cofia fod y ffit lân arni hi heddyw."

"Hi" mae dewyrth yn galw bodo, a "nacw" mae bodo'n ei alw fynte.

Ac roedd yn amlwg fod y ffit lân ar bodo'n drwm. A pheth diflas ydi'r ffit lân, yn enwedig ar amser bwyd. Mae hi i radde er bodo bob amser. Does ene ddim farnish ar yr un o'r cadeirie, mae bodo wedi'i rwbio i ffwrdd wrth eu cnau nhw. Ac y mae cader dewyrth bron yn dwll, gan y rhwbio parhaus arni, ac yn splintars i gyd. Am hynny, wedi i dewyrth unweth eistedd yn ei gader, feder o ddim