Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

symud ond efo gofal. Ac am y llawr,—llawr pren ydio,—mae o cyn wynned a thrensiwr. Os bydd y cadeirie, a'r ffendar a'r heyrn tân, i gyd ar ben y bwrdd, mae hynny'n arwydd fod y ffit lân yn drom iawn ar bodo.

Pan aeth dewyrth a fi i mewn, doedd yno ddim ond un gader ar lawr, a honno wrth y drws, a'r gweddill i gyd â'u gwadne i fyny ar ben y bwrdd, a'r ffendar a'r heyrn tân, a'r canwyllbrenni pres, a'r scelet, ar dop y cwbwl. Doedd bodo ddim yn y tŷ, ond roedd ei sŵn hi yn y bwtri.

"Tyrd i mewn, Nedw," medde dewyrth, "gad imi edrych am yr adnod honno iti." Ac estynodd y Beibil oddiar y dresal. Dene Bodo i mewn fel tân gwyllt, ac yn cipio'r Beibil oddiarno fo, ac yn bloeddio fel gwraig wallgo,—"Be haru'r dyn, deydwch?—yn darllen ei Feibil liw dydd gole glân, a finne newydd ei ddystio fo hefyd." Ar hyn, sylwodd arna i yn eistedd ar y gader, yr unig un oedd i'w chael, a dene ddyrnod i mi ar draws fy ngwyneb efo'r carp llawr, nes fy mod i'n speden.

"Eistedd ar y gader ene ar bob dydd!" medde hi, "a hel dy draed ar hyd y llawr yma,—mae carreg y drws yn ffisiant i ti."

Ac allan â fi ar garreg y drws, a dewyrth ar fy ol i fel oen llyweth.

"Tyrd am dro, machgen i, i weld yr ardd," medde fo. Ac i'r ardd â mi. Roedd yno fath o setl i eistedd arni, a dene ni'n dau yn eistedd, a dewyrth yn pwffian yn ysgafn am yn hir fel tase fo'n smocio cetyn anweledig. Toc, dene fo'n troi ata i,—"Nedw," medde fo, "mi wnest dipyn o gamgymeriad wrth eistedd ar y gader ene. Arni hi roedd o 'n eistedd ar y Sul. A 'does neb byth yn