ELIN: Ond beth am wely i Dic?
DIC: O, mi gysga i ar y soffa 'ma ond cael rug neu flancad drosta i.
TAD (yn mynd at ddrws y grisiau): Jane, tafl rug a blancad i lawr.
ELIN: Cofia gadw tanllwyth o dân, 'machgen i. Yn wir, wn i ddim sut i d'adael di dy hun yn y gegin 'ma.
TAD (o ymyl drws y llofft): Rydach chi wedi gorfod i adael gannoedd lawer o nosweithia'r chwe blynedd dwaetha pan nad oedd waeth ganddo amdanoch, a 'does bosib' na fedr o fod heb i fami heno. (Daw oddi wrth ddrws y llofft gyda rug a blancad, a theifl hwy'n ddidaro i lawr ar yr aelwyd.) Dyna nhw i ti. Rwan, Elin, rhowch ych braich i mi'ch helpu i'r llofft.
ELIN (yn ymaflyd yn ei fraich i godi): Rois di 'run gusan i mi, Dic, ar ôl bod i ffwrdd c'yd.
DIC (yn cusanu ei fam): Dyna hi, mam.
ELIN: Dydi o ddim ond fel doe gen i gofio dy gusanu di wrth dy roi i gysgu yn y gwely. Nos dawch, 'machgen gwyn i. O'r tad! dydw i ddim yn leicio'r lliw gwelw 'na sydd ar dy ruddia di a'r hen besychu gwag 'na. (Teifl fraich y tad oddi wrthi ac eistedd i lawr.) Wiliam, ewch i'ch gwely; symuda i 'run cam o'r gornel 'ma heno: 'dydi Dic ddim yn ffit i'w adael i hunan : mae o'n edrach fel corff.