gwêl yr almanac; cyfyd ef i fyny a chenfydd ei lun ei hun oddi tano. Yna gesyd y rug a'r blancad a phopeth yn drefnus yn eu lle, ac â at ddrws y grisiau i glustfeinio. Gwisg ei gap a chyfyd goler ei gôt ac ar ôl ymdwymo am ychydig, diffydd y gannwyll ac â allan drwy y buarth dan wylo'n ddistaw a chau'r drws yn dawel. Am funud bach mae'r gegin yn wag a hanner tywyll. Yna daw'r tad i lawr o'r llofft wedi hanner tynnu oddiamdano. Mae'n cario coflaid o ddillad gwely yn ei freichiau, a cherdda'n dawel yn nhraed ei sanau i gyfeiriad y soffa. Ar ôl rhoi'r dillad i lawr, dealla nad oes neb ar y soffa. Goleua'r gannwyll, gan edrych mewn penbleth o'i gylch. Geilw'n'dawel, rhag cyffroi ELIN, "Dic, Dic." Brysia at ddrws y buarth, a chenfydd fod hwnnw heb ei folltio; egyr ef, ac ar y rhiniog geilw eilwaith megis dan ei anadl, "Dic, Dic bach! ymhle rwyt ti? Gan nad oes ateb yn dod, rhed yn awr at ddrws y grisiau, a geilw'n dawel, “ Jane, Jane, tyrd i lawr mewn munud." Tra mae JANE yn dod i'r gegin, gwisg ei esgidiau, a daw JANE i lawr.]
JANE: Be sy'n bod, 'nhad?
TAD (yn gynhyrfus): Mae Dic wedi mynd! Mi gadwn y newydd oddi wrth dy fam am dipyn ne mi fydd yn ddigon am i bywyd hi.
JANE (mewn braw a syndod): Dic wedi mynd! Mynd i ble?