Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny.
JANE: O ie, ewch ymlaen-rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth stiff yn 'y natur i. Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun.
ELIN: Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi. Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach.
JANE: Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith. Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach.
ELIN: Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun.
JANE: Wel, mi gadawn hi ar hynyna. Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi?
ELIN: Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion.
JANE: Na, na, deydwch y breuddwyd : mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o.