Tudalen:O'r Bala i Geneva.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fedd o hyd, yn crogi uwch ben dyfnder o dri chan troedfedd. O Fribourg hyd at ben y tir, yr oeddym yn dringo drwy wlad dlos, o fryniau a dyffrynnoedd. Yn bur fuan wedi cael y goriwaered, daethom i dynel, ac wedi i ni ddod allan o hono wele lyn Geneva yn gorwedd yn llonydd odditom, a thref dlos Lausanne ar ei fin, a chysgod hen gastell du Chillon i'w weled yn ei ddyfroedd. Buom yn teithio am ddwy awr hyd lan y llyn, drwy winllannoedd llawnion o rawnwin cochion, a'r eira ar y mynyddoedd am y llyn a ni. Ac o'r diwedd clywsom y guard yn gwaeddi "Genève!"


Mewn hotel y dechreuais i drigiannu yn Geneva, i aros cael lle wrth fy modd. Ar ginio, eisteddai gwr o Almaenwr, feddyliwn i ar liw ei wallt a llun ei het, ar fy nghyfer. Bu'n edrych arnaf yn hir, ac o'r diwedd cychwynodd ymgom yn Saesneg fel hyn,-

"Ai nid ydych yn dod o'r un wlad a chenedl a fi?"

"Ni fedraf ddweyd nes y clywaf pwy ydyw eich cenedl."

"Sais ydwyf fi, nid Sais ydych chwithau ?

"Nage'n siwr."

Cymro ydych ynte, ac mae Cymro a Sais a Scot a Gwyddel yr un peth mewn gwlad bell fel hon, ac Owen Edwards ydyw eich enw."

"A ydych yn fy adnabod?"

"Mi gwelais chwi ugeiniau o weithiau, yr oeddwn yn eistedd ar y fainc y tu ol i chwi yn narlith Caird yng Nglasgow."

Ysgydwasom ddwylaw yn llawen, a bu James Muir a minne'n edrych Geneva gyda'n gilydd. A melus oedd cael ymgomio am yr hen amser; cael eistedd dan gysgo eglwys John Calfin i son am athroniaeth Edward Caird. Ust! Dyna'r gloch dân. Rhaid i mi gael gweled sut y maent yn diffodd tân mewn gwlad fel hon.

29, Rue de Rhône, Geneva.