Tudalen:O'r Bala i Geneva.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

102


Y mae'r tai yn fawr ac uchel iawn, y mae dros gant a hanner o ysta felloedd yn y ty hwn. Wrth gwrs y mae amryw deuluoedd yn byw ynddo. Yn ei ganol y mae cwrt agored, a galleries yn rhedeg gydag ochr pob llofft. I'r cwrt daw'r postmon cân ei gorn, gollwng pawb fasged i lawr wrth linyn, a thyn hi i fyny i edrych beth fydd ynddi. Gellir tynnu pobl i fyny hefyd, ar lift, ar gader, neu gerfydd coler eu côt. Y mae mynedfeydd hirion yn rhedeg o heol i heol drwy y tai, fel alley a tho arni, yn croesi y cyrtiau yrwan ac yn y man. Gwelais aml i olygfa ryfedd wrth grwydro ar hyd y rhai hyn

Cedwir y ty hwn gan wraig weddw a'i mab. Y mae hi yn enedigol o Geneva, daeth i Loegr lawer blwyddyn yn ol, priododd fasnachwr o Sais, buont yn byw yn hir yn Yokohama yn Japan, wedi hynny yng Nguatemala yng Nghanolbarth yr America. Y mae'r mab yn medru chwech neu saith o ieiithoedd yn rhigl, ac yn ddatganwr gwych iawn. Medr ganu'r sither hefyd, yr offeryn mwyaf swynol glywais i erioed. Offeryn Tyroleaidd ydyw, rhyw fath o delyn gyda sounding board. Y mae math o gryndod yn ei swn, yn gwneyd i ti feddwl bob munud fod llais dynol yn canu gydag ef. Y mae gwr arall yn lletya yn y ty heblaw myfi. Ni welais ef ond unwaith, ac nid oes arnaf eisiau ei weled eto. Yr oeddwn yn darllen rhwng hanner nos ac un ryw noswaith. Clywn fy nrws yn agor, a chodais fy mhen. Gwelwn y peth tebycaf i ddrychiolaeth welais i erioed,—bôd tal teneu a hugan gwyn am dano, a briw ar ei ael a gwaed yn rhedeg ohono, a llygaid marw fel pe buasent wydr a niwl drosto. Yr oedd ei ddwylaw yn crynnu, ond nid oedd un aelod arall yn ymsymud, safai y peth hyll yn llonydd ar riniog fy nrws. Dyma'r yr ymgom fu rhyngom,—

"Beth sydd arnoch chwi eisiau?"

Eisiau gwybod y ffordd."