Tudalen:O'r Bala i Geneva.djvu/156

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goleuni. Raid i mi ddweyd dim am Durner, gwyddost am y tro crwn hwnnw o oleuni sydd ymhob darlun o'i eiddo, yn gwasgaru goleu a chysgodion o'i amgylch. Y mae darluniau Morgenstiern yn oleuni i gyd; nid goleuni yn gryfach na'r tywyllwch fel yn Nhurner; nid goleuni yn dangos y tywyllwch, fel yn Rembrandt. Y mae ei oleuni mor dyner a goleuni Turner, ond yn fwy cannaid; lleinw'r galon â llawenydd. Y mae'n dlws ac yn bur, pura bob peth y tery arno. Dawnsia ar ewyn y mor; crynn ar lynnoedd tawel; chwery ar furiau llwydion eglwysi; gwisga heolydd afiach, mangre tlodi a phechod, âg aur ac arian; gwna domen yn brydferth, gwna ystabl yn ardderchocach na phlas brenin, gwna ferddwr fel y mor. Yn Frankfort y gwelais i y ddau ddarlun gore gennyf o'i eiddo, " Y lleuad yn codi yn Venice," a "Golygfa ar y traeth yn Itali."

Tra y mae goleuni Rembrandt yn fwy tanbaid na goleuni Morgenstiern, y mae ei dywyllwch yn dduach na chysgodion duaf Turner. Fflach o oleuni yn dangos tywyllwch dudew, —ogof, calon ddu rhyw fforest goed, rhyw bechod yng ngoleuni fflachiad mellten,—ydyw ei hoff destyn ef. Yr un syniad sydd ymhob darlun—Crist o flaen Peilat, y goleuni yn dangos y tywyllwch. Bum yn meddwl droion nad oes gan yr un gwir feddyliwr ond rhyw un meddwl, a'i fod yn dangos hwnnw yng ngoleuni pob peth. Y mae pobl sydd heb ddysgu meddwl yn gwneyd llawer o dda yn y byd, gallant droi eu dwylaw at bob peth, ond buan yr anghofir am danynt wedi iddynt fyned o'r golwg. Cymer di unrhyw feddyliwr mawr, buan yr ymddengys rhyw un drychfeddwl, drychfeddwl yn graddol ymlenwi, mae'n wir, ac ynglyn â'r drychfeddwl hwnnw y cofi am y meddyliwr hwnnw byth wedyn. Ni waeth mewn pa beth y gosodir y meddwl allan, —lliwiau, duwinyddiaeth, ffurfio eglwys, gwneyd pregeth, ennill brwydrau, un meddwl yn unig sydd yno. Meddwl