Tudalen:O'r Bala i Geneva.djvu/157

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

am Baul, Awstin, Luther, Calfin, Cromwell, Spinoza, Handel, Hawthorne. Os meddyli am Shakespeare, y mae'n debyg y tybi ei fod yn eithriad. Rhyw fugues, chwedl y cerddorion, ar un meddwl ydyw meddyliau pob meddyliwr mawr. Wrth gwrs, gellir dynwared, ond nid meddylwyr y galwaf fi'r dynwaredwyr. Clywais bregeth yn cynnwys tarawiadau o Domos John, Edward Morgan, a Dr. Edwards; gwelais ddarlun yn fy adgoffa am Luini, a Hogarth, a Theniers; clywais dón, un dôn yn dynwared Beethoven, a Wagner, a Stradella; peth hawdd ydyw gwneyd hyn, creu dull newydd ydyw'r gamp, gall yr hwn na fedr wneyd hynny fod yn ddigon hyderus y bydd i'r byd golli pob cof o hono. Pan yn aros yn Nghoblentz, bum am oriau ryw ddiwrnod yn ceisio rhoddi ar bapur y drychfeddyliau sy'n hynodi hen bregethwyr Cymru, a pha arlunwyr oedd wedi dangos yr un meddyliau. Yr oedd gennyf dair colofn,-y meddyliau, y pregethwyr, yr arlunwyr. Lle mae'r papyr? Gofyn i ddyfroedd y Rhein. Y mae'n sicr fod yr un meddwl, -ac nid oes dim llawer o feddyliau wedi eu darganfod eto, -yn ymffurfio mewn agweddau gwahanol, nid yn unig yn yr un enaid, ond hefyd mewn gwahanol eneidiau. Nid yn unig y mae pob peth ysgrifennodd Calfin yn dwyn delw rhyw un drychfeddwi. ond yr wyt yn gorfod teimlo dy hun ym mhresenoldeb yr un enaid a'r un drychfeddwl wrth edrych ar ddarluniau rhyw arlunydd, neu wrando ar alawon rhyw gerddor. Pe buaswn yn credu mewn trawsfudiad eneidiau, buaswn yn credu hefyd mai enaid Calfin baentiodd ddarlun- iau Remiandt, ac a freuddwydiodd "Scarlet Letter" Hawthorne Ni ddywedaf ddim am arlunwyr golygfeydd natur, -natur- ioldeb Ruesdael, mawredd Salvator Rosa, mwynder Claude Lorraine, ystormydd Peters, tawelwch Vernet, tywodydd Frey, machlud haul goleugoch Fohr, ac felly yn y blaen.