Tudalen:O Law i Law.pdf/101

Gwirwyd y dudalen hon

yn fy llety, Ella, mi rown ni'r llestri crand 'na ar y bwrdd," meddwn.

Crwydrai fy llygaid o'r bwrdd i silff uchaf y cwpwrdd gwydr trwy amser te. Ac wedi imi orffen bwyta, eisteddais yn ôl yn fy nghadair a syllu'n hir ar y llestri a'u rhosynnau hardd. Cofiwn y diwrnod yr aeth fy mam a'm tad i Gaernarfon i'w prynu yn anrheg priodas imi.

"Gobeithio y bydd hi yn 'u licio nhw, John," meddai fy mam. "Mi fuo' ni'n dau hyd yr hen dre 'na i gyd, a'r rhain oedd y crandia' — a'r druta' — welsom ni. O diar, yr ydan ni'n sâl isio 'panad."

Rhoes fy nhad y pecyn ar y bwrdd i'w ddatod yn bwyllog a gofalus. Gwelwn y balchder yn llygaid y ddau wrth i'r llestri crand ddod i'r golwg, a phan ddaliodd fy mam gwpan i fyny yng ngolau'r ffenestr a denu tinc ohoni â'i hewin, gallwn dyngu oddi wrth wedd fy nhad mai ef a luniodd y gwpan ac a beintiodd y rhosynnau. Aeth fy mam â'r llestri i'r parlwr i'w gosod ar y bwrdd bach wrth y ffenestr, a galwodd amryw i'w gweld gyda'r nos. Ymunai fy nhad hefyd â'r ymwelwyr, gan sefyll wrth y bwrdd bach — fel awdur a pherffeithydd y llestri.

Diar annwyl, y mae'r dyddiau hynny fel doe er i bymtheng mlynedd lithro ymaith. Yr oeddwn i newydd gyrraedd fy nhair ar hugain, a thros fy mhen a'm clustiau mewn cariad. Am Nel y meddyliwn drwy'r dydd wrth fy ngwaith, ac fel yr hiraethwn am i gorn y chwarel ganu ar ddiwedd y prynhawn imi gael brysio adref i lyncu tamaid cyn cychwyn dros y mynydd i'w gweld! Cyn hynny, cerddaswn adref hefo'm tad ac Ifan Jones bob dydd, ond brysiwn o'u blaenau yn awr. Yn wir, byddwn hanner y ffordd i fyny i'r mynydd cyn i'm tad orffen bwyta'i swper-chwarel. Cyflym yw traed llanc mewn cariad.

Clir yw'r atgof am ei chyfarfod gyntaf. Yr oedd eisteddfod yn Llanybwlch, ac euthum yno i gystadlu ar adrodd. Cofiaf ddringo llwybr y mynydd y prynhawn Sadwrn hwnnw o wanwyn, ac adrodd englynion R. Williams Parry ar ôl Hedd Wyn wrth y grug a'r creigiau ar fin y ffordd. Enillaswn ar y darn mewn eisteddfod yn Llanarfon, ac un diwrnod yn y chwarel, cymhellodd fy nhad ac Ifan Môn fi i ymgeisio yn Llanybwlch.