Tudalen:O Law i Law.pdf/102

Gwirwyd y dudalen hon

"'Fyddi di ddim gwaeth o drio, wel'di," meddai fy nhad.

"'Rwyt ti'n bownd o ennill, John," meddai Ifan Jones.

Yn y capel, yn hogyn, y dechreuaswn adrodd, mewn ambell Gyfarfod Amrywiaethol yn perthyn i'r Gymdeithas Lenyddol. F'ewythr Huw a'm dysgai, ond wedi iddo ef farw, gyrrodd fy nhad fi un noson at John Lloyd, yr Adroddwr lleol. Yr oedd ef yn adroddwr hynod o boblogaidd, a mawr oedd y galw am ei wasanaeth yng nghyngherddau'r ardal ac fel arweinydd mewn eisteddfodau. 'Ioan Llwyd' y'i galwai ei hun, ac ymddangosai ambell bwt o gerdd yn y papurau lleol o dan yr enw hwnnw. "Y Bradwr" oedd y darn y mynnai fy nhad imi ei feistroli wrth draed John Lloyd, a chofiaf y noson o aeaf y curais yn bryderus wrth ei ddrws. Daeth y gŵr mawr ei hun i ateb fy nghnoc ac i agor imi.

"Aros di, hogyn Robat Davies, yntê? Tyd i mewn. Mi fu dy dad yn siarad hefo mi neithiwr."

I mewn â ni i'r gegin fach at y tân.

"'Dydw' i ddim am ddeud y medra' i 'neud adroddwr ohonat ti, cofia. Mae isio llais a phersonoliath a phresenoldab i 'neud adroddwr. Paid â chrymu dy ysgwydda' gymaint; tafl dy frest allan."

Rhoes fi i sefyll wrth y drws, a safodd yntau â'i gefn at y tân a'i ddwy droed ar led. Yr oedd John Lloyd yn ŵr hardd i edrych arno—a gwyddai yntau hynny. Dyn tal, cydnerth, ydoedd, a chroen ei wyneb cyn iached â chroen afal. Gwisgai sbectol â'i ffrâm lydan o gorn du, ac aml y rhoddai ei fys a'i fawd am fraich y ffrâm i dynnu'r sbectol ymlaen ar ei drwyn mawr er mwyn iddo gael edrych arnoch trosti. Ei wallt a dynnai eich sylw gyntaf oll; gadawai iddo dyfu ar ei ruddiau hyd at waelod ei glustiau, ac uwchlaw'r clustiau a thu ôl i'w ben ymwthiai'n gnwd beiddgar, trwchus. Mwstas fel brwsh dannedd, un dant aur ym mlaen ei geg, gwên a oleuai ac a ddiffoddai yn annaturiol o gyflym, môr o lais, pob cam a phob ystum yn ymwybodol a gorffenedig — dyna Ioan Llwyd. Yr oedd ei wisg bob amser yn deilwng o'i urddas fel Adroddwr ac Arweinydd Swyddogol pob cyngerdd yn y lle — coler big, côt a gwasgod ddu, a throwsus du ac arno resi tenau, gwyn. Buasai'n chwarelwr