ŵr blaenllaw yng nghapel Bethania ac mai ef oedd Ysgrifennydd yr eisteddfod.
"Hei, was!" meddai Robin Llew wrth Arfon Hughes pan oedd yr adroddwr hwnnw ar ei ffordd allan, yn wên i gyd. "'Ddaru ti watsio'r beirniad? 'Ddaru ti sylwi lle 'roedd o'n sgwennu rhwbath? 'Ddaru ti watsio'i wynab o? 'Ddeudodd o rwbath wrthat ti?"
Ond taro'i gap ar ei ben a chamu allan gyda rhyw ymgais at urddas a wnaeth Arfon Hughes.
Rhoes Robin ei ddwrn o dan ei drwyn.
"Aros di imi gael gafal yn y Cochyn diawl,"sibrydodd wrthyf. "Mi ddangosa' i iddo fo faint sy tan Sul."
Daeth fy nhro innau i ymddangos o flaen y beirniad cyn bo hir. "John Davies, "meddai Ioan Llwyd wrth fy nghyflwyno iddo. "Wedi cal 'i ddysgu gan 'i ewyrth, un o adroddwrs gora'r lle 'ma."
Gwelodd y beirniad, gweinidog o gyfeiriad Pwllheli, y tân yn fy llygaid a rhuthr y gwrid i'm hwyneb.
"Yn yr ysgol yr ydach chi, 'machgen i?" gofynnodd, er mwyn imi gael cyfle i ddod ataf fy hun.
"Naci, yn y chwaral, syr."
"Ydi'ch ewyth' yn y chwarel hefyd?"
"Nac ydi. Mae o wedi marw, syr. Dri mis yn ôl."
"O, y mae'n ddrwg gen' i. Beth oedd 'i enw fo?
"Huw, Huw Davies."
"Mi glywis Mr. Jones, gweinidog y Bedyddwyr, yn sôn amdano fo. Fo ydi'ch gweinidog chi?"
"Ia, syr."
"Wel, gadewch imi'ch clywed chi yn adrodd y darn yma. Sefwch yn y fan acw wrth y gadair 'na!"
Ac adroddais "Y Bradwr," yn syml a thawel a naturiol, gan geisio cofio popeth a ddysgasai F'ewythr Huw a Mr. Jones imi.
"Diolch, 'machgen i," meddai'r beirniad, gan wenu'n garedig arnaf. "Oedd, yr oedd eich ewyth' yn un o adroddwyr gora'r lle 'ma."
Ni wyddwn yn y byd beth a olygai wrth hyn, a thrown y frawddeg yn fy mhen drwy awr gyntaf yr eisteddfod. O'r diwedd, clywn lais yr arweinydd, John Lloyd, yn