Tudalen:O Law i Law.pdf/131

Gwirwyd y dudalen hon

distawrwydd sanctaidd. Rhoddai fy mam bwniad imi bob tro y deuai'r ysfa i chwerthin trosof, ond gwyddwn oddi wrth yr hanner-gwên yn ei llygaid nad ydoedd yn wir gas wrthyf. Am fy nhad, yswil a nerfus oedd ef ar ei hynt gymundebol. Ni wyddai i ba le yr edrychai na pha beth a wnâi â'i ddwylo. Fel rheol, taflai ei olygon i fyny i'r nenfwd fel petai rhyw gamwri mawr yn digwydd yn y sedd ac yntau wedi ei gyflogi i'w anwybyddu; plethai ei ddwylo o'i flaen am ennyd, yna gafaelai yn ei dei, wedyn plethai ei fysedd drachefn, ac yna tynnai allan yr hances goch sidan a gadwai fy mam iddo ar gyfer y Sul. Tynnwn innau fy nghadach poced allan pan gychwynnai fy nhad o'r sêt fawr tua'r seddau; gwyddwn y byddai ei angen arnaf i guddio'r wên lydan a fynnai ddyfod i'm hwyneb. Ni feiddiwn droi fy ngolwg' yn ôl i gyfeiriad sedd Defi Preis: pan wneuthum hynny un tro, tynnodd y wich hirfaith o esgidiau Ifan Jones ystumiau un mewn poenau arteithiol i wyneb Defi, ac ni fedrais innau ymgadw rhag pwff o chwerthin cyhoeddus.

Dyletswydd a gymerasai Ifan Môn arno ef ei hun yn ddiwyd a difrifol iawn oedd ceisio chwanegu at rif aelodau'r capel, efallai am fod Mr. Jones y Gweinidog braidd yn ofnus a hwyrfrydig yn hyn o beth. Credai Ifan Jones y dylid cael Bedydd bob hanner blwyddyn, os oedd modd yn y byd, ac âi o gwmpas y rhieni i'w hargyhoeddi ei bod hi'n hen bryd i'r mab neu'r ferch ymaelodi. Cyn gynted ag y dechreuais i weithio yn y chwarel, gwyddwn fod y pwnc hwn yn gysgod rhyngddo ef a'm tad, ef yn bendant y dylwn gael fy medyddio, a'm tad am i mi fy hun chwennych hynny yn gyntaf. Yr oedd Defi Preis, ac yntau yr un oed â mi, i gael ei fedyddio un nos Sul, a chofiaf y taflai Ifan Jones sylwadau go awgrymog tuag ataf drwy'r wythnos honno yn y chwarel. Daliai at y testun, mor gyndyn â chi wrth asgwrn, y prynhawn Sadwrn hwnnw pan euthum i'w helpu ef a'm tad i baratoi'r "seston", fel y galwem y fedyddfa dan lawr y pulpud, ar gyfer trannoeth. Ond ni thyciai ei gyndynrwydd ddim: teimlwn y dylwn gael rhyw weledigaeth ar y pwnc, ac yr hoffai Mr. Jones imi weld ystyr y Bedydd yn gliriach.

Y Sadwrn hwnnw y bedyddiwyd Defi Preis ddiwrnod cyn ei amser. Digwyddais daro arno yng nghanol y pentref a