Tudalen:O Law i Law.pdf/133

Gwirwyd y dudalen hon

marw f'ewythr, a thorrodd i lawr ar ddechrau ei bregeth. "Dim llawar o bregethwr" oedd barn amryw amdano, ond ni feiddiai neb ddweud hynny yng nghlyw fy nhad. Ac fel y tyfwn, awn innau yn fwy chwyrn o hyd os digwyddwn glywed rhyw anair iddo ar y stryd neu yn y chwarel neu yn y capel. Onid oedd yn ysgolhaig ac yn llenor? Oni roddai'n hael, o'i arian prin, at bob achos teilwng? Oni frysiai i bob tŷ lle y clywsai fod afiechyd neu dristwch? Onid arhosai ar ei draed hyd oriau mân y bore, ac weithiau drwy'r nos, wrth ambell wely cystudd? Ac onid oedd yr un fath bob amser wrth bawb—yn syml a charedig a chywir?

Rhyw nos Sadwrn oedd hi pan benderfynais gymryd fy medyddio. Aethai fy nhad i'r capel gydag Ifan Jones i daflu golwg olaf tros y trefniadau yno, ac eisteddais i wrth y tân yn gwylio fy mam yn smwddio lliain y Cymundeb ar gyfer trannoeth. Edrychodd braidd yn yswil arnaf wrth ofyn,

"'Wyt ti ddim wedi meddwl am gael dy fedyddio, John?"

"'Sdim brys, mam. Pam oeddach chi'n gofyn?"

"O, dim byd."Ac aeth ymlaen â'r smwddio.

"'Mam?"

" Ia?"

"'Ydach chi eisio imi gael fy medyddio?"

"Wel, na, ond . . ."

"Ond be'?"

"Dim ond 'mod i'n meddwl y gall y peth fod yn poeni. tipyn ar Mr. Jones."

"Poeni Mr. Jones? 'Ddeudodd . . . 'ddeudodd o rywbath wrthach chi?"

"Naddo, dim ond . . ."

"Dim ond be', 'mam?"

"Dim ond gofyn 'oeddat ti wedi sôn rhywbath wrtha i."

Poeni Mr. Jones! Ni feddyliaswn am hynny.

"'Mam? "

"Ia, John? "

"'Rydw' i am fynd draw i dŷ Mr. Jones."

"O?"

"A dweud wrtho fo y liciwn i gael fy medyddio nos yfory."

"Ti ŵyr ora', John bach." A gwenodd yn dyner uwchben y lliain gwyn a smwddiai.