Tudalen:O Law i Law.pdf/147

Gwirwyd y dudalen hon

diwinyddol ac athronyddol fy nhad. Chwedleuwr oedd un, moesolwr oedd y llall — a gwyddent hynny.

O'r ychydig lyfrau sydd gennyf i y mae un — "Self-Help" gan Samuel Smiles — a ddwg wên i'm hwyneb bob tro yr edrychaf arno. Tu fewn i'r clawr, wedi ei ysgrifennu'n gwafrllyd ag inc coch, wele:

Prize to JOHN DAVIES, Standard V, for Good Attendance.

Absent — 0 times.
Late — 1 0 times.

Yr 1 wedi ei groesi allan a wna imi wenu. Unwaith y bûm i'n hwyr i'r ysgol y flwyddyn honno, a chefais faddeuant llawn am y trosedd. Now Stifì a gawsai ffit yn iard yr ysgol un awr ginio pan ddisgwyliem Syrcas i'r pentref, a gyrrwyd fi a dau o fechgyn eraill i'w ddanfon adref at ei fam. Pan ddychwelais i'r ysgol, maddeuwyd imi am fod yn hwyr, ac ar ddiwedd y flwyddyn, pan ofidiai'r athro, Mr. Griffiths, wrthyf oherwydd yr un marc hwyr yn erbyn fy enw, atgofiais ef am yr amgylchiad. Ond rhywfodd neu'i gilydd, llithrodd yr i croesedig i glawr y llyfr a dderbyniais yn wobr am y ffyddlondeb y gofalai fy mam mor ddiwyd amdano.

Amgylchiad i'w gofio oedd ffit gan Now Stifi, Owen Stephen Williams ar lyfrau'r ysgol. Gwingai a brwydrai a chiciai Now fel un gwallgof, ac weithiau deuai o'i enau rai termau nad oeddynt, a barnu oddi wrth ei wyneb, yng ngeirfa'r Sgŵl. Daethom i edrych ymlaen at y perfformiad hwn, a thaflem olwg gorfoleddus at ein gilydd pan ddeuai arwyddion ffit ar Now Stifi. Ac allan yn iard yr ysgol, rhoddai ei ddawn fel llewygwr ryw urddas ac anrhydedd i Now; nid oedd ef fel bechgyn eraill, a mawrygem y gallu hwn a heriai holl fileindra'r Sgŵl ei hun.

Oherwydd yr oedd y Sgŵl yn un milain, a haerai mam Now mai ei ofn ef a roes fod i'r ffitiau hyn ar ei mab. Nid oedd dim gwir yn hynny, ond yr oedd golwg ac ymddygiad 'Y Polyn Lein', fel y galwem John Francis, y Sgŵl, yn